Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



ABLETT, NOAH (1883-1935; D.W.B., 1113a)Glöwr ac arweinydd Undeb Llafur. g. Porth, Rhondda, 4 Hyd. 1883, mab John a Jane Ablett. Glöwr yn y Rhondda oedd Ablett pan aeth i'r Coleg Llafur. Pan ddychwelodd penodwyd ef yn swyddog mesur glo yn y Maerdy. Etholwyd ef yn aelod o bwyllgor canol Ffederasiwn Glöwyr y De, yn Ion. 1911, ac yn ddiweddarach o bwyllgor canol Ffederasiwn Glöwyr Prydain Fawr. Yn 1918 penodwyd ef yn gynrychiolydd y glowyr ym Merthyr ac yno y bu hyd ei farw.

Y mae i Ablett ddau bwysigrwydd yn hanes undebaeth yn ne Cymru. Yr oedd yn un o arweinwyr yr wrthblaid yn erbyn arweinwyr fel William Abraham Mabon (Bywg., 1). Bu hefyd yn bropagandydd syniadau syndicalaidd a Marcsiaidd ymhlith y glowyr. Yr oedd eraill fel William Brace wedi gwrthwynebu Mabon o flaen dyddiau Ablett, a'r canlyniad oedd ffurfio un undeb mawr, Ffederasiwn Glowyr y De, i gymryd lle'r undebau bach lleol. Trwy eu hymdrechion hwy gwnaed i ffwrdd â'r trefniant a wnaeth Mabon i reoli cyflogau'r glowyr yn ôl pris y glo, trefn a fuasai mewn grym o 1875 i 1903. Gwrthwynebu am resymau undebol a wnaethant hwy. Ar y llaw arall barn Ablett oedd bod brwydr ddigyfaddawd rhwng gweithiwr a pherchennog mewn cymdeithas gyfalafol. Gwrthwynebodd felly unrhyw gymrodedd rhyngddynt a galwodd ar y gweithiwr i ddod ar streic nid yn unig i wella'i gyflwr fel gweithiwr ond i ddiddymu'r perchennog yn gyfan gwbl. Anogodd y gweithwyr i baratoi streic gyffredinol a meithrin ysbryd ymladdgar yn y frwydr yn erbyn y dosbarthiadau uchaf.

Daeth i'r amlwg yn gyntaf yn y streic ym mhyllau glo'r Cambrian yn y Rhondda a barhaodd o Hyd. 1910 i Fedi 1911. Bwriad y glowyr oedd cael cytundeb y cwmni ar egwyddor o benderfynu isrif cyflog. Anfonodd yr awdurdodau nifer o blismyn a chatrodau milwrol i Gwm Rhondda a bu amryw ysgarmesoedd rhyngddynt a'r streicwyr. Cyhoeddodd Ablett faniffesto o blaid streic gyffredinol a gwrthwynebu telerau'r cwmni. Eithr wedi dioddefiadau pedwar mis ar ddeg o ddiweithdra bu raid i'r Undeb ildio a'u derbyn. Ffurfiodd Ablett gydag eraill fel A. J. Cook (Bywg., 74-5), bwyllgor dan yr enw ‘Unofficial Reform Committee’, a chyhoeddi pamffledyn The Miners Next Step. Gwaith Ablett oedd y drafft cyntaf ac y mae'n hynod am y gymysgfa o syndicaliaeth a Marcsiaeth sydd ynddo. Ceir apêl ynddo ar i'r gweithwyr ffurfio un undeb mawr a pharatoi i feddiannu a rheoli diwydiant y wlad. Cafodd gylchrediad eang a bu'n achos trafodaeth frwd mewn ardaloedd diwydiannol i fyny ac i lawr y wlad.

Cyhoeddodd Ablett hefyd nifer o erthyglau yn y Plebs, cylchgrawn y Coleg Llafur, a llyfr, Easy Outlines of Economics. Gwrthwynebydd unig ydoedd fel arfer ar gynghorau'r Undeb a mabwysiadodd yr Undeb bolisi o genedlaetholi'r diwydiant glo yn hytrach na syniadau syndicalaidd Ablett.

Priododd Ann Howells yn 1912 a bu iddynt ddau o blant. Bu f. 31 Hyd. 1935 ym Merthyr Tudful.

Llyfryddiaeth:

  • Evans, D., Labour Strife in the South Wales Coalfield, 1910-11;
  • Ness Edwards, History of the South Wales Miners Federation.
  • Gwybodaeth oddi wrth aelodau teulu Ablett.

Awdur:

Yr Athro Huw Morris-Jones, D.Phil., (1912-89), Bangor