BEDLOE, WILLIAM (1650-1680; D.W.B., 1113b), anturiaethwr a hysbyswr ynglŷn â'r Cynllwyn Pabaidd;
g. yng Nghas-gwent, sir Fynwy. Bu'n lleidr yn Lloegr ac yna'n dwyllwr ar y cyfandir, ac ar ôl ysbaid mewn carchar yn Valladolid, llwyddodd yn y gamp anodd o ddwyn arian oddi ar Titus Oates. Ym mis Hyd. 1678, ar derfyn chwe mis o garchariad yn Newgate, cychwynnodd ar yrfa eithriadol o lwyddiannus fel hysbyswr drwy honni y medrai ddatguddio'r gwir ynglŷn â llofruddiad Syr Edmund Berry Godfrey. Bu'n dyst yn erbyn dros ddeuddeg o offeiriaid, a chyhuddodd hyd yn oed y frenhines, Catherine o Braganza, o gynllwynio i lofruddio'r brenin. Bu f. ym Mryste 20 Awst 1680. Honnai un o'i gyfoeswyr fod ganddo fwy o ddychymyg ac o huotledd nag Oates, a'i fod gystal ag ef fel celwyddgi ac anudonwr.
Llyfryddiaeth:
- Cath. Rec. Soc., xlvii, xlviii;
- D.N.B.;
- J. Pollock, Popish Plot.
Awdur:
John Martin Cleary, Caerdydd