Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



CADWALADR, ROGER (1566-1610; D.W.B. 1113b) offeiriad Seminaraidd a merthyr; g. yn Stretton Sugwas, sir Henffordd. Ymaelododd yn athrofa Reims yn 1590, ac urddwyd ef yn offeiriad yn Valladolid yn 1593. Gororau De Cymru oedd maes ei genhadaeth a ducpwyd ef oddi yno i garchar yn 1610. Buasai'n bleidiol i'r Offeiriaid ‘Appellant’, 1600-03, ac yn wrthwynebol i'r gweddill o'r clerigwyr a'r Jesiwitiaid, ond yn ddiweddarach newidiodd ei syniadau, ac ymwelwyd ag ef yn y carchar y dydd y condemniwyd ef i farwolaeth, gan y Tad Robert Jones (q.v. isod) pennaeth y Jesiwitiaid yn Lloegr. Y Tad Jones a ysgrifennodd, mewn Eidaleg, hanes ei ddienyddiad yn Leominster, 27 Awst 1610.

Llyfryddiaeth:

  • Cath. Rec. Soc., xxv, 22;
  • Foley, Records Eng. Prov. S.J., iv, 389-391;
  • Challoner, Memoirs of Missionary Priests (arg. 1924), 299-306.

Awdur:

John Martin Cleary, Caerdydd