Yn ei ewyllys, dyddiedig 9 Awst 1802, (dyfynnir hi yn ‘An Act to enable William Chambers … to grant leases of certain estates’, 1840 — copi yn Llyfrgell Gyhoeddus Caerdydd), trefnodd Syr John Stepney (gw. STEPNEY, teulu; Bywg., 868), i'w eiddo, mewn pedwar plwyf ar hugain, fyned, nid i'w frawd Thomas (a ddilynodd Syr John fel barwnig ar ei farwolaeth, 3 Hydref 1811), nac i etifeddion ei ddwy chwaer, ond i chwe pherson na perthynent i'r teulu, a'u hetifeddion gwryw hwythau. Yr oedd William Chambers o Bicknor, swydd Caint, yn un o'r rhain. Ar ôl dydd Chambers, oni fyddai etifeddion gwryw, yr oedd y stâd i fyned yn ôl i Syr Thomas Stepney, ac yna i etifeddion dwy chwaer Syr Thomas. Yn hynod iawn, bu'r personau a enwid yn yr ewyllys farw, y naill ar ôl y llall, yn gyflym iawn, heb etifeddion, ac fel canlyniad daeth y stad i feddiant William Chambers, 18 Rhag. 1824. Bu Syr Thomas Stepney f. yn ddietifedd, 19 Medi 1825. Ni cheir unrhyw esboniad ar yr ewyllys hon, arwahan i'r traddodiad teuluol fod Syr John Stepney wedi cweryla â'i frawd ac â'i chwiorydd.
G. William Chambers yn Llundain, ac addysgwyd ef yng Ngholeg S. Ioan, Caergrawnt (cofrestrwyd ef 1792; B.A., 1795; M.A., 1800). Pan ddaeth stadau Stepney i'w feddiant, daeth i fyw yn Llanelly House (ger eglwys y plwyf), tŷ na fuasai teulu Stepney yn byw ynddo ers 60 mlynedd. Yn 1828 yr oedd yn uchel siryf sir Gaerfyrddin. Bu ef a'i fab yn amlwg iawn yn natblygiad diwydiannol Llanelli, yn arbennig drwy iddynt sefydlu'r South Wales Pottery yn 1840, a gwario £10,000 ar wneud hynny. Bu f. yn Llanelli, 9 Chwef. 1855, yn 81 oed.
Gan fod y ddeddf a nodir uchod yn dweud nad oedd ganddo etifedd, rhaid tybio tybio mai mab anghyfreithlon oedd WILLIAM CHAMBERS, yr ieuaf (1809-1882). G. ef yn Valenciennes, Ffrainc, 24 Mai 1809, a chafodd ei addysg yn Eton a Choleg S. Ioan, Caergrawnt (derbyniwyd ef 1826, a chofrestrwyd ef Pasg 1828. Nid oes tystiolaeth iddo raddio). Priododd Joanna Trant, merch Capten Payne, R.N., 20 Gorff. 1835, a bu iddynt 5 o blant. Bu f. 21 Mawrth 1882 yn 72 oed. Yr oedd William Chambers, yr ieuaf, yn ŵr a chanddo syniadau rhyddfrydol iawn. Yr oedd yn un o sylfaenwyr y Llanelly Reform Society yn 1839. Er ei fod yn ynad, ef oedd yn y gadair yng nghyfarfod protest ‘Beca' ar Fynydd Sylen, 25 Awst 1843. Er hynny, bu iddo ran yng nghipio arweinwyr ‘Beca' pan ymosodwyd ar glwydi ym Mhontarddulais, 6 Medi 1843, a dioddefodd ddial y terfysgwyr (gw. John Jones, Bywg., 452-3). Rhoes dystiolaeth bwysig o flaen y comisiynwyr addysg yn 1849, ac yn 1850 penodwyd ef yn gadeirydd cyntaf Bwrdd Iechyd Llanelli, a gymerth le'r bwrdeiswyr llygredig a fuasai'n gyfrifol am weinyddu stadau'r dre. Ar farwolaeth ei dad aeth stadau Stepney yn ôl i feddiant etifeddion chwiorydd Syr John Stepney, ond, yn unig, ar ôl achos cyfreithiol hir (Llys y Siawnsri, 1865). Yn 1853 prynodd William Chambers, yr ieuaf, Hafod (a newidiasai berchenogion ddwywaith er pan fu f. Thomas Johnes, Bywg., 415-6). Gwerthodd yntau'r lle cyn ei farw.
G. JOHN GRAHAM CHAMBERS (1843-1883), mabolgampwr a newyddiadurwr, mab William Chambers, yr ieuaf, yn Llanelli, 12 Chwef. 1843, ac addysgwyd ef yn Eton a Choleg y Drindod, Caergrawnt (cofrestri 1861, B.A., 1865). Cafodd ei ‘blue' am rwyfo yn 1862 a 1863, ac ef oedd llywydd clwb rhwyfo'r brifysgol, 1864-1866. Dywedid mai ef oedd y cerddwr gorau yn y brifysgol. Am fanylion ynglŷn â'i yrfa, gw. D.N.B. Bu f. yn Llundain, 4 Mawrth 1883.