Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



CLYNNOG, MORGAN (1558-wedi 1619; D.W.B., 1114b), offeiriad seminaraidd. Ymaelododd yn y coleg Saesneg, Rhufain, oed 21. Wedi'r cynnwrf a fu'n achos symud ei ewythr, y Doctor Morys Clynnog (Bywg., 73a), o swydd rheithor y coleg Saesneg, efe oedd yr efrydydd Cymraeg cyntaf i gymryd y llw cenhadol, 23 Ebrill 1579. Ordeiniwyd ef yn offeiriad, a dychwelodd i'w wlad enedigol yn 1582. Cyfeiria llythyr a ysgrifennwyd ym Mai neu Feh. 1587, ato mewn cysylltiad ag offeiriaid seminaraidd eraill, ac yn 1588 ceir ei enw — ‘Clneycke Morgan' — ar restr yr Arglwydd Burghley o offeiriaid yng Nghymru. Gwyddys iddo ddywedyd yr offeren yn Llandeilo yn 1590, ac iddo wasanaethu mewn lleoedd eraill yn sir Gaerfyrddin. Yr oedd ym Margam yn 1591. Yn 1596 yr oedd yn trigo gyda Jenkin Turberville ym Mhen-llin, Morgannwg; ac yr oedd yno o hyd yn 1602. Yn 1606 dug y Benedectin David Augustine Baker (Bywg., 20-1) ef i'r Fenni i ail-gymodi'i dad, William Baker, ag Eglwys Rufain, a cheryddodd yr henwr ef am frygawthian ei Ladin. Danfonai wŷr ieuainc dros y môr i seminarïau Douai a Valladolid, a chyd-weithiai'n dangnefeddus â'r Ieswitiaid ac offeiriaid seciwlar eraill am o leiaf 37 flynedd. Dyrchafwyd ef yn gynorthwywr i'r ‘Archoffeiriaid' (Archpriest) erbyn 1600. A phan glywir amdano am y tro olaf ar 2 Rhag. 1619, yr oedd yn brif gynorthwywr. Dengys hyn y parch uchel a ddangosid tuag ato gan ei gydgrefyddwyr yng Nghymru a Lloegr.

Llyfryddiaeth:

  • Cath. Rec. Soc., ii, 133; v. 143; x, 28, 175; xxii, 127; xxx, 68; xxxiii, 91-2; xxxvii, 20;
  • Second Douay Diary, 297;
  • E. G. Jones, Cymru a'r Hen Ffydd, 34 and 36;
  • S. Wales Rec. Soc., iii, 51.

Awdur:

John Martin Cleary, Caerdydd