Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



CYNDEYRN (Yn Saesneg KENTIGERN), neu MUNGO (518?-603; D.W.B., 1139a), sant, sylfaenydd Glasgow. Ymddengys yn yr achrestrau Cymreig fel Cyndeyrn, mab Owain ab Urien, ac ŵyr Urien Rheged. Y mae Owain yn gymeriad pwysig yn y rhamantau yn Llyfr Coch Hergest, ac ymddengys ef a'i dad, Urien, yn y farddoniaeth Gymraeg gynnar a edrydd hanes brwydrau tywysogion Brythonig y Gogledd yn erbyn Hussa, mab Ida — gw. yr erthyglau ar Lywarch Hen a Thaliesin. Cysylltir y teulu, fodd bynnag, â Strathclyde, ac nid â Chymru yn ystyr bresennol y gair. Unig hawl S. Kentigern i'w gynnwys yn y gyfrol hon yw'r traddodiad amheus iawn a'i gwna'n sylfaenydd mynachdy ac esgobaeth Llanelwy. Ar y mater hwn gw. yr erthygl ar Asaph. Bu f. 13 Ion., yn ôl pob tebyg, yn y flwyddyn 603. Rhydd Ann.C., y flwyddyn 612, dyddiad llai tebygol.

Llyfryddiaeth:

  • Br. SS., ii, 231-40;
  • J. E. Lloyd, Hist. W., 166;
  • D.N.B.


Gelwir Llangyndeyrn, sir Gaerfyrddin, ar ôl sant arall o'r un enw. Yn ôl achrestrau'r cyfnod canol diweddar yr oedd yn fab i S. Cyngar ap Garthog ap Ceredig ap Cunedda Wledig. Dethlid ei ŵyl ar 25 Gorff., yn ôl yr hen ddull. Heddiw cynhelir y ffair yn gysylltiedig â'i ŵyl ar 5 a 6 Awst yn Llangyndeyrn. Ni ddylid cymysgu rhwng ei dad, Cyngar, a'r sant Cyngar/Docwin/Dochau, y ceir nodyn arno yn y Bywg., 83a.

Llyfryddiaeth:

  • Br. SS., ii, 240, 248.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.