DAFYDD, (neu DAVIES), MAURICE (fl. 1789; D.W.B., 1116a), emynydd;
daw'r emyn Cymraeg tra adnabyddus sy'n dechrau gyda'r llinell ‘Am graig i adeiladu …’ o lyfryn o'i waith a gyhoeddwyd yn 1789. Ymddengys mai gyda'r Annibynwyr yn y Bala yr oedd yn aelod. Gw. y drafodaeth yn J. Thickens, Emynau a'u Hawduriaid, 138-9.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.