Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DAFYDD, OWEN (1751-1814?; D.W.B., 116a), bardd cefn gwlad a baledwr. Dywedir mai o Wynfe, sir Gaerfyrddin yr hannai, ond trigai yn Llandybïe yn 1783. Bernir mai ef yw'r ‘Owen Watkin’ a briododd Joyce William o Gwm Aman, yno 21 Tach. 1783. Crwydrodd lawer ar hyd ei oes wrth ddilyn galwedigaeth melinydd. Bu'n byw am dymor yng Nghwmgrenig-fach, Cwm Aman, ac ar ôl hynny yn Llwyn Uchedwel gerllaw'r Glais yng Nghwmtawe; Cefn Myddfai, Llangyfelach; a Melin Gurwen. Gorffennodd ei yrfa ym Melin y Gurnos, Cwmtawe. Codwyd cofadail ar ei fedd ym mynwent y plwyf, Ystradgynlais yn 1869; dywedir ar honno ddarfod ei eni yn 1751 ac iddo f. 29 Mawrth 1813. Eithr dywed Thomas Levi (Traeth., 1866, 406) iddo f. 29 Mawrth 1813 yn 62 oed, a dywed Glasnant Jones (Gen., Mawrth 1906) iddo f. yn 1816 yn 65 oed. Bernir mai ef yw'r ‘Owain William, Gurnos Mill’ y ceir cofnod ei gladdu yng nghofrestr Ystradgynlais 26 Chwef. 1814. Cyhoeddwyd nifer o'i ganeuon ar ffurf baledi, megis ei gân i Danchwa Brynmorgan (Voss, Abertawe, 1812). Ond ei gân enwocaf yw honno i Dduwdod Crist, sef Cân yn dangos fod Crist yn Dduw &c., (Voss, 1806, ac amryw arg. yn ddiweddarach). Chwaraeodd y gan hon ran nid bychan yn y ddadl rhwng Trindodwyr a'r Undodiaid yn nechrau'r 19eg ganrif. Cyhoeddwyd Cynhyrchion Barddonol yr Hen Felinydd Owen Dafydd Cwmaman yn Ystalyfera yn 1904.

Llyfryddiaeth:

  • Y ffynonellau uchod;
  • Y Cenhadwr Americanaidd, Hyd., 1858;
  • Y Beirniad, 1863;
  • T. Thomas, Hen Gymeriadau Plwyf y Betws;
  • ysgrifau G. M. Roberts yn Llais Llafur, 22 a 29 Mai 1937;
  • J. Gwili Jenkins, Hanfod Duw a Pherson Crist, 355;
  • G. M. Roberts, Hanes Plwyf Llandybïe, 230.

Awdur:

Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen / Llandudoch / Llandybïe