Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DAFYDD, (neu DAVID), THOMAS (fl. 1765-92; D.W.B., 1116b), marwnadwr ac emynydd. Yr oedd yn frodor o Lanegwad, sir Gaerfyrddin, — anfonwyd y cyntaf o'i lyfrynnau i'r wasg o Esgair-rudd yn Llanegwad. Ni wyddys nemor ddim amdano. Digwydd yr enw, ysywaeth, yn aml iawn yng nghofrestri'r plwyf, ond gellir nodi i un o'r enw hwn gael ei eni yno yn 1728 ac un arall yn 1735. Disgrifiwyd ef, a hynny ddigon tebyg yn gywir, fel pregethwr Methodistaidd, ond nid oes cofnod swyddogol o'i dderbyn fel pregethwr. Nid oedd ef ychwaith yn un o'r sawl Thomas David y ceir eu llythyrau yng nghasgliad Trefeca. Ceir gwybodaeth ddefnyddiol iawn am Fethodistiaid blaenllaw ei ddydd yn ei farwnadau. Ceir y marwnadau hyn, a'i emynau, mewn rhyw ugain o lyfrynnau a gyhoeddwyd rhwng 1765 a 1792. Disgrifir y rhain gan Garfield H. Hughes yn Jnl. W. Bibliog. Soc., Gorff. 1951. Y mae'r nodiadau hyn wedi eu seilio'n gyfan gwbl ar yr erthygl honno.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.