DAVIES, HENRY, I (1753-1825), gweinidog gyda'r Bedyddwyr.

Enw: Henry Davies
Dyddiad geni: 1753
Dyddiad marw: 1825
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awduron: Morris Brynllwyn Owen, Robert Thomas Jenkins

Ganwyd ger Treletert, Sir Benfro. Dysgodd grefft crydd. Bedyddiwyd ef yn Llangloffan (28 Tachwedd 1772), a dechreuodd bregethu (yn Nhreletert) yn 1775. Yn 1780 ordeiniwyd ef yn un o gyd-weinidogion Llangloffan, swydd a ddaliodd am bum mlynedd a deugain. Am beth amser parhaodd i fod yn grydd, ond ar ôl priodi bu'n ffarmio ym Mhencerrig ger Abergwaun. Y mae'n wr diddorol am fwy nag un rheswm. Ymgorfforwyd cymaint â saith 'cangen' o'i gynulleidfa wasgaredig fel eglwysi yn ystod ei weinidogaeth, ac adeiladwyd capeli i nifer ohonynt. Yn ôl pob cyfrif, yr oedd yn bregethwr da eithriadol. Perthynai i'r blaid genhadol (ac Uchel Galfinaidd) ymhlith Bedyddwyr ei ddydd, a chymerodd ran yng nghenhadaeth y Bedyddwyr yng ngogledd Cymru. Efe (yn 1788) a fedyddiodd John Richard Jones 'o Ramoth ' (1765 - 1822). Bu mewn helbul ar ôl glaniad y Ffrancwyr ger Abergwaun (1797). Er i'r goresgynwyr ysbeilio'i fferm a'i fygwth ef yn bersonol, cyhuddwyd ef o 'gydweithio' â'r gelyn. Er na ddaeth dim o'r cyhuddiad, llosgwyd delw ohono yn ffair Abergwaun ar 2 Chwefror 1798. Bu farw 9 Mai 1825, a chladdwyd ef ym mynwent Hermon, Abergwaun.

Bu ei fab, HENRY DAVIES II (1786? - 1862) yn ei gynorthwyo, a dilynodd ef fel gweinidog. Nid oes sicrwydd am flwyddyn ei eni. Awgrymir 1786 gan ei garreg fedd, ond rhydd ffynonellau eraill 1785 a hyd yn oed 1783. Dechreuodd bregethu yn 1805, aeth i Goleg y Bedyddwyr yn y Fenni yn Ionawr 1809, ac ordeiniwyd ef yn un o bedwar cyd-weinidog Llangloffan yn 1811. Pan fu farw 23 Awst 1862, un o dri ydoedd. Claddwyd ef yn Harmony (ger Pencaer), capel a sefydlasai ef ei hun. Yn wahanol i'w dad yr oedd ganddo ef gyfoeth, a ddaeth i'w ran trwy ei briodas a hefyd fel cymynrodd. Nid yn unig y medrai anwybyddu ei gyflog fechan iawn, ond medrai hefyd fod yn gymwynaswr hael. Dywedir iddo ddosbarthu dros £4,000 yn ystod ei fywyd; yn arbennig bu'n gyfrifol am fwy na chwarter treuliau ail-adeiladu capel Llangloffan, - hyn yn ychwanegol at rodd hael tuag at gronfa'r weinidogaeth a rhodd arall tuag at yr ysgol ddyddiol yno.

Awduron

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.