EDWARDS, DAVID (1858-1916; D.W.B., 1118-9), newyddiadurwr;
g. 11 Ebrill 1858. Bu'n brentis yn swyddfa'r Herald yng Nghaernarfon, ac yna yn aelod o staff y Liverpool Daily Post. Dychwelodd i Gaernarfon fel rheolwr y grwp papurau a oedd yn gysylltiedig â'r North Wales Observer, 1884-91. O 1891 hyd 1897 ef oedd rheolwr-olygydd y Nottingham Daily Express a'r Evening News a berthynai iddo. Bu'n rheolwr cynorthwyol y London Daily News, 1897-1901, ac yn olygydd a rheolwr, 1901-2. Dychwelodd i Nottingham a bu'n olygydd a rheolwr-gyfarwyddwr yr Express a'r Evening News o 1908 hyd ei farwolaeth, 22 Chwef. 1916. Dylid ychwanegu at y crynodeb uchod (a godwyd o Who Was Who) y ffaith mai ef a R. A. Griffith (Bywg., 279b) a J. Owen Jones (q.v. isod) oedd awduron ffugenwol The Welsh Pulpit… by a Scribe, a Pharisee, and a Lawyer, 1894. Edwards oedd y ‘Scribe’.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.