FRANKLEN, Syr THOMAS MANSEL 1840-1928; D.W.B., 1121), cyfreithiwr a gweinyddwr;
g. yn 1840 yn Abertawe, yn fab i Richard Franklen, Y.H., D.L., o Clemenstone, a'i wraig, Isabella (Talbot). O Harrow aeth i Rydychen (Exeter, ac yn ddiweddarach Merton), a graddiodd yn 1861. Gwnaed ef yn fargyfreithiwr o Lincoln's Inn yn 1865, a bu'n gwasanaethu yng nghylch-daith De Cymru. Yn 1878 gwnaed ef yn glerc heddwch ym Morgannwg, ac yn 1889 yn glerc cyngor sir Forgannwg. Bu f. 29 Medi 1928, cyn ymddiswyddo. Priodasai Florence Allen yn 1872. Cawsai radd anrhydeddus LL.D., gan Brifysgol Cymru yn 1921, a'i urddo'n farchog yn yr un flwyddyn. Yr oedd yn aelod o Gymdeithas Hynafiaethau Cymru ac yn ffotograffydd brwdfrydig, fel y gweddai i berthynas i W. H. Fox Talbot (gw. TALBOT (Teulu), Margam; Bywg., 873). Gwnaed defnydd helaeth o'i luniau o groesau Celtaidd cynnar gan J. Romilly Allen (Bywg., 5), a chedwir casgliad o'i luniau o adeiladau hanesyddol yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.