GORE, HUGH (1613-1691; D.W.B., 1123), esgob, sefydlydd ysgol ramadeg Abertawe.
G. Hugh Gore yn fab hynaf John Gore, archddiacon Lismore a pherthynas i iarlliaid Arran, ym Maiden Newton, swydd Dorset. Anfonwyd ef i'r ysgol yn Lismore yn Iwerddon, ac oddi yno aeth i Goleg y Drindod, Rhydychen, lle yr ymaelododd 20 Meh. 1628. Ar ôl ychydig dymhorau yno, gadawodd Rydychen ac aeth i Goleg y Drindod, Dulyn, lle y graddiodd yn D.D. yn y pen draw. Credir mai ei fywiolaethau cyntaf oedd plwyf Nicholaston a rheithoriaeth Oxwich ym mhenrhyn Gŵyr, o dan nawdd teulu'r Manseliaid (Bywg., 575); ond ymddengys iddo adael Oxwich yn 1638 (T. Richards, Religious Developments in Wales, 1654-62, t. 495). Wedi'i ddifreinio o dan Ddeddf Taenu'r Efengyl 1650 am ‘delinquency and refusing the engagement’, aeth i gadw ysgol yn Abertawe am rai blynyddoedd. Ar ôl yr Adferiad cafodd fywoliaethau yn Iwerddon a daeth yn esgob Waterford a Lismore yn 1666. Yn 1682, gan gymaint ei serch tuag at dref Abertawe a'i phobl gwaddolodd ‘ysgol ramadeg rydd… er meithriniad ac addysg… plant ac ieuenctid y Gorfforaeth, y Dref a'r Fwrdeisdref, meibion y rhai tlotaf ymhlith y bwrdeisiaid’. Cedwir gweithredoedd gwreiddiol sefydlu'r ysgol yn Neuadd y Dref, Abertawe, o hyd. Daeth Gore i Abertawe i fyw yn 1689 a chladdwyd ef yn Eglwys y Santes Fair yno ar 27 Mawrth 1691.
Llyfryddiaeth:
- J. Walker, Sufferings of the Clergy (1714), rhan ii, 259;
- George Grant Francis, The Free Grammar School, Swansea (1849);
- T. Richards, Hist. Pur. Mov..
Awdur:
Syr Glanmor Williams, M.A., Abertawe