Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



GRAY, THOMAS (1847-1924; D.W.B., 1123), peiriannydd mwynawl a hanesydd lleol; g. 22 Medi 1847 yn Usworth, swydd Durham, yn fab i William a Jane Gray. Yn 1848 symudodd y teulu i Dai-bach, Margam, sir Forgannwg, lle y bu Thomas fyw drwy weddill ei fywyd. Ar ôl cyfnod yn cynorthwyo'i dad, a oedd yn gynrychiolydd mwynawl i'r Mri. Vivian a'u Meibion, bu'n beiriannydd cynghorol i'r un cwmni o ddiwydiannwyr ac yn arolygwr pyllau. Ef hefyd oedd dyfeisydd llusern ddiogel ‘Gray’ i lowyr (patent rhif 10,503; 12 Mehefin 1900). Ymddiddorai hefyd mewn llywodraeth leol, ym Mudiad y Gwirfoddolwyr, ac, yn bennaf oll, mewn hanes ac archaeoleg leol. Ymhlith ei weithiau cyhoeddedig ceir ‘Notes on the granges of Margam Abbey’ (a adargraffwyd o'r Journal of the British Archaeological Association, 1903); ‘The hermitage of Theodoric and the site of Pendar’ (yn Arch. Camb., 1903); a The Buried City of Kenfig (Llundain, 1909). Bu f. 9 Gorff. 1924, a chladdwyd ef yng nghapel anwes Tai-bach.

Llyfryddiaeth:

  • S. W. News, 10 Gorff. 1924;
  • Cardiff MSS. 4882,
  • arysgrifen ar gladdgell y teulu yn Nhai-bach;
  • adroddiad cyfrifiad 1851 yn y P.R.O.

Awdur:

Thomas James Hopkins, (1919-87), Caerdydd