Ym mhob ardal lle y gweithiai yr oedd iddo ddiddordeb dwfn yn yr eglwys leol, ei hanes a'i thraddodiadau, fel y prawf ei erthyglau niferus yn yr Haul a'r Cymro eglwysig; ceir crynodeb o'i gyfraniadau yn enwedig o 1873 i 1887 yn llawysgrifau Bangor 1673 a 1721; a cheir nodiadau tra gwerthfawr ar wahanol blwyfi yn MSS. 3001-5, 4573. Fel dyn yr oedd yn deimladwy tuhwnt, yn dueddol iawn i swcro dychmygion afiach, ac yn anghredadwy anfaddeugar (ai mor bell ag ysgrifennu nodiadau pen blwydd digwyddiadau annymunol a ddaethai i'w ran). Ac yr oedd iddo lu o ragfarnau: yn erbyn Seisnigrwydd Eglwys Loegr yng Nghymru, yn erbyn arferion defodol rhai o eglwysi Aberdâr, yn erbyn Undodwyr a Byddin yr Iachawdwriaeth, yn erbyn ‘Berw’ (R. A. Williams, Bywg., 1004), y bardd o'r Waunfawr y bu Dafydd Griffith yn giwrad iddo dros dro. Er yr holl wendidau anfanteisiol hyn, yn ei ddyddiaduron ef, glerigwr dinod ac anghofiedig, y ceir y darlun mwyaf argyhoeddiadol o fywyd tu mewn i'r Eglwys yn y dyddiau cyn y Datgysylltiad.
Thomas Richards, D.Litt., (1878-1962), Bangor