GRIFFITH (TEULU), Penrhyn, Sir Gaernarfon

Hwyrach mai hwn oedd y teulu cyntaf yng Ngogledd Cymru i ddyfod i'r amlwg fel perchnogion ystad fodern. Hawlient eu bod yn ddisgynyddion i Ednyfed Fychan drwy ei fab Tudur. Yn ôl yr achau confensiynol daeth y Penrhyn a Chochwillan (gweler teulu Williams o Gochwillan) i'w meddiant drwy briodas (c. 1300-1310) Griffith ap Heilyn ap Tudur ab Ednyfed Fychan (bu farw c. 1340), ac Efa, merch ac aeres Griffith ap Tudur ap Madog ap Iarddur. Dywedir i'w thiroedd hi ffurfio rhan o ystadau Iarddur, sylfaenydd tybiedig un o'r pymtheg llwyth traddodiadol, a'u derbyniasai fel rhan o gwmwd Arllechwedd Uchaf a roddwyd iddo gan Lywelyn Fawr. Ni cheir tystiolaeth am y rhodd hon mewn unrhyw gofnod. Profir bodolaeth Iarddur gan yr arolygiadau o Fôn a Chaernarfon a wnaed yn 1352, ond ni chadarnheir yr hanes am y rhodd gan Lywelyn Fawr ynddynt. Ymddengys i'r achau or-symleiddio'r cymhlethdod ac iddynt briodoli'r briodas ag Efa i'r genhedlaeth anghywir a gor-bwysleisio ei phwysigrwydd (Dwnn, Visitations. ii, 130-1: Thomas ' Genealogical Account of the Families of Penrhyn and Cochwillan ' yn Williams, Observations on the Snowdon Mountains (1802), 163-7; Rec. Caern., 13).

Yn ddiamau gorweddai treftadaeth Tudur ab Ednyfed Fychan o fewn y Pedwar Cantref, a cheir tystiolaeth mewn cofysgrifau yn cadarnhau gosodiad yr achau fod ei ddisgynyddion, yn y llinach y daeth teuluoedd Griffith y Penrhyn a Williams, Cochwillan, ohoni, wedi ymsefydlu yn Nant yn Nhegaingl, a Llangynhafal yn Nyffryn Clwyd. Yng ngogledd ddwyrain Cymru yr oedd teulu Griffith yn byw hyd ddiwedd y 14eg ganrif. Nid oeddynt wedi ymsefydlu yn y Penrhyn ar ddechrau'r ganrif honno, ond yn ystod y ganrif daeth tiroedd lawer ym Môn ac yn Sir Gaernarfon i'w meddiant drwy dair priodas.

GWILYM AP GRIFFITH AP HEILYN (bu farw c. 1370)

Trydydd disgynnydd yn llinach Tudur ab Ednyfed. Priododd (c. 1340) Efa, merch Griffith ap Tudur ap Madog ap Iarddur. Yr oedd ei thad hi (bu farw c. 1310) a'i brawd, Gwilym ap Griffith o Laniestyn ym Môn (bu farw c. 1375), yn dirfeddianwyr o beth pwys yn Nhegaingl ac mewn amryw o drefgorddau ym Môn (Twrgarw, Penwŷnllys) ac yn Sir Gaernarfon (Bodfeio), ac yr oedd hi ei hun, yn ôl pob tebyg, yn gyd aeres ei brawd yng Ngafael Iarddur ym Modfeio yn 1352. Y mae bron yn sicr mai'r briodas hon a ddug Gochwillan ynghyd â rhan o diroedd teulu Efa ym Môn i feddiant teulu ei gŵr. Yn unol ag ewyllys ei brawd (1375) etifeddodd ei mab, Griffith ap Gwilym (bu farw 1405 gweler 2 isod), ychwaneg o diroedd ym Môn a Sir Gaernarfon.

GRIFFITH AP GWILYM (bu farw 1405)

Priododd (c. 1360) Generys, merch ac aeres Madog ap Goronwy Fychan, a oedd yn llinach Ednyfed Fychan, trwy ei fab, Goronwy, cyndad y Tuduriaid. Dug hi i'w gŵr diroedd yng Ngwredog ym Môn, ynghyd â'i rhan o diroedd y teulu yng Ngafael Goronwy ab Ednyfed yn nhrefgordd Cororion, Sir Gaernarfon. Gafael Goronwy ab Ednyfed oedd cnewyllyn ystad y Penrhyn, a chyfetyb y Gafael cyfan yn fras i ddemen neu barc y Penrhyn heddiw. Y briodas hon oedd y ddolen gydiol gyntaf rhwng teulu Griffith a'r Penrhyn, ond yng ngogledd ddwyrain Cymru y bu Griffith ap Gwilym fyw drwy ei oes. Ynghyd â'i frawd, BLEDDYN, bu farw yn gwrthryfela gyda Owain Glyndŵr cyn Hydref 1406, ond ceid cynrychiolwyr disgynyddion Bleddyn a disgynyddion Griffith ap Gwilym, trwy ei fab ieuaf, Rhys, yn siroedd y Fflint a Dinbych hyd y 16eg ganrif. Cychwynnodd cysylltiad personol y teulu â Môn ac â Sir Gaernarfon gyda'r hynaf a'r ail o feibion Griffith ap Gwilym.

GWILYM AP GRIFFITH (bu farw 1431)

Mab hynaf Griffith a Generys. Priododd c. 1390, ei berthynas, Morfydd, merch Goronwy ap Tudur, bu farw 1382, o Benmynydd (gweler tan Ednyfed Fychan), a thrwy hyn enillodd ran ychwanegol o 'Afael Goronwy ab Ednyfed' (Penrhyn), yn ogystal â thiroedd ym Môn. Yn 1389 rhoddodd eu tad ei diroedd yn Sir Gaernarfon ac ym Môn i Wilym a'i frawd ieuaf, ROBIN AP GRIFFITH, a chanlyniad hyn, yn ôl pob tebyg, oedd eu hymsefydliad cadarn yn yr ardal. Rhoddwyd tiroedd ym Modfeio i Robin, cyndad teulu Williams Cochwillan. Gwilym oedd gwir sylfaenydd teulu'r Penrhyn, ond ni wyddys yn union lle'r oedd ei gartref cyn 1400. Yr oedd gwaddol ei wraig wedi cryfhau ei hawl ar ' Afael Goronwy ab Ednyfed ' (Penrhyn), ond yng nghymydau Menai a Dindaethwy ym Môn yr oedd ei brif diroedd. Yr oedd mam ei wraig (Myfanwy) a'i brawd (Tudur ap Goronwy) yn fyw yn 1397, a naturiol fyddai tybio mai ym Mhenmynydd yr oedd eu cartref. Fodd bynnag, disgrifir Gwilym ap Griffith fel 'o Benmynydd ' yn 1400 a 1403, ac yno yn 1430 yr arwyddwyd ei ewyllys. O 1391 hyd 1397 bu'n gwasanaethu mewn amryw swyddi tan y goron ym Môn, a bu'n siryf yn 1396-7.

Rhoddodd ewythredd ei wraig (Rhys, Gwilym a Maredudd ap Tudur) bob cymorth i'w cefnder, Owain Glyndŵr, a gweler tan Ednyfed Fychan. Yr oedd Gwilym ei hun yn fwy pwyllog, ond gorfodwyd ef gan amgylchiadau teuluol ac eraill i ymuno â'r gwrthryfelwyr tua 1402 (fel y dywedwyd uchod bu ei dad a'i ewythr farw yng ngwasanaeth Glyndŵr). Bu ei frawd, Robin o Gochwillan, hefyd yn ymladd yn y gwrthryfel ond cefnodd ef ar Lyndŵr cyn 1408 pan nodir ef fel un o swyddogion y goron yn Sir Gaernarfon. Daeth Gwilym yntau i delerau â'r brenin cyn mis Tachwedd 1407, pan adferwyd iddo ei diroedd fforffed a rhoddi iddo yn ychwanegol diroedd 27 o ddilynwyr Glyndŵr ym Môn a laddesid, yn ôl pob tebyg, yn y gwrthryfel. Erbyn 1410 cawsai diroedd fforffed ewythredd ei wraig, Rhys a Gwilym ap Tudur, dau a lynasai wrth Lyndŵr hyd y diwedd. Cyfeirir hefyd yn ei ewyllys, dyddiedig 1430, at diroedd a gawsai oddi wrth ei berthnasau Tuduraidd. Ymddengys i'w frawd yng nghyfraith, Tudur ap Goronwy, farw c. 1400, ac yn ddiamau, daeth ei ran ef o eiddo'r Tuduriaid i feddiant Gwilym. Felly ymddengys i Wilym ap Griffith lwyddo, drwy briodas ei dad, ei briodas ei hun, a chanlyniadau gwrthryfel Glyndŵr, i ennill iddo'i hun y rhan helaethaf o dreftadaeth y Tuduriaid. Nid y lleiaf o ganlyniadau tebygol hyn oedd ymadawiad Owain Tudur i ddilyn ei hynt yn llys Harri V.

Ni wyddys dyddiad marw gwraig gyntaf Gwilym. Rywbryd ar ôl 1405 priododd Joan, merch Syr William Stanley o Hooton, Sir Gaer, gan gychwyn felly y cysylltiad hir a buddiol â'r teulu hwnnw. Tir ei fam ym Mhenmynydd yn unig a etifeddodd y mab o'r briodas gyntaf, ac ef oedd cyndad Theodoriaid diweddarach y lle hwnnw (gweler teulu Tudur, Penmynydd). Bu Gwilym ap Griffith farw yn 1431 gan adael ei diroedd helaeth ym Môn a Sir Gaernarfon i'w fab o'r ail briodas. (Llawysgrifau'r Penrhyn, passim; Transactions of the Anglesey Antiquarian Society and Field Club, 1951, 34-72; J. R. Jones, ' The Development of the Penrhyn estate to 1431 ', traethawd gradd M.A., Prifysgol Cymru, heb ei gyhoeddi).

Rhwng 1431 a 1531 etifeddwyd yr ystad gan fab, ŵyr, a gorwyr Gwilym ap Griffith (y tri yn dwyn yr enw Gwilym) ac ychwanegwyd ati gan y tri. (Yn ystod y 15ed ganrif mabwysiadwyd y cyfenw Griffith a throi Gwilym yn William mewn cofrestri nad oeddynt mewn Cymraeg.) Dangosodd y tri hyn fedr eithriadol i lywio cwrs diogel a buddiol drwy ddyfroedd peryglus gwleidyddiaeth y 15ed ganrif yn arbennig, drwy ymuno â theuluoedd Seisnig amlwg, yn enwedig teulu hyblyg Stanley - proses y gwelir ei ddechrau gyda phriodas Gwilym ap Griffith a Joan Stanley o Hooton.

GWILYM FYCHAN (c. 1420 - 1483)

Mab Gwilym ap Griffith a Joan Stanley. Bu dan ofal ei berthnasau, teulu Stanley, hyd ei ddyfod i oed (llawysgrifau'r Penrhyn 17-18). Yn 1440 derbyniodd lythyrau breiniol yn ei ryddhau oddi wrth amodau'r cyfreithiau a luniwyd yn erbyn y Cymry yn ystod gwrthryfel Glyndŵr, ar yr amod na phriodai Gymraes nac ychwaith dderbyn swydd. Oherwydd bod ei fam yn aelod o deulu Stanley, dilewyd yr amod ynglŷn â dal swydd yn 1443 (Cal. Pat. Rolls, 1436-41, 416, a 1441-6, 164). Priododd, cyn 1447, Ales, merch ac aeres Syr Richard Dalton o Apthorp yn sir Northants. Ymron yn ddiamau ceir adlewyrchiad o'r cysylltiad â theulu Stanley yn y briodas hon, oherwydd yr oedd Ales Dalton yn wyres (drwy ail briodas) i Isabel de Pilkington, merch yr hon o Thomas de Lathom, ei gŵr cyntaf, a ddug Lathom a Knowsley i deulu Stanley (Dwnn, Visitations, ii, 155; llawysgrifau'r Penrhyn 1-4, 7-9, 13; G.E.C., Complete Peerage, IV, 205 n.c.; D.N.B., liv, 75). Priododd, yn ail, Wenllian, merch Iorwerth ap David. ROBERT, y mab hynaf o'r briodas hon, oedd sylfaenydd teulu Griffith, Plasnewydd, Môn, a Llanfair is gaer, Sir Gaernarfon. EDMUND, yr ail fab, oedd sylfaenydd ystad Carreg lwyd, Môn. Gweler Griffith, Pedigrees, 47, 56, 57, a'r erthyglau 'Griffith, Carreglwyd ' a ' George Griffith (1601 - 1666)'. Yn 1451 yr oedd yn aelod o gomisiwn a benodwyd i archwilio'r rhesymau paham nad oedd trethi Sir Feirionnydd wedi eu talu (Cal. Pat. Rolls, 1446-52, 480), a rhwng 1457 a 1463 bu'n ddirprwy i amryw o siambrlenni Gogledd Cymru (Davies, Conway and Menai Ferries, 47; P.R.O. Min. Acc., 1154/3, 1180/3). Nid ymddengys iddo ef ei hun ddal y swydd o siambrlen. Ef, yn ôl pob tebyg, oedd y William Griffith a dderbyniodd roddion, fel ' marsial neuadd y brenin ', oddi wrth Edward IV yn 1462 a 1464. Bu hefyd yn gwasanaethu ar nifer o gomisiynnau yng Ngogledd Cymru yn ystod teyrnasiad Edward (Cal. Pat. Rolls, 1461-7 (117, 293, 329), 1467-77 (54, 490), 1476-85 (121)). Yr oedd wedi marw erbyn 13 Medi 1483 (llawysgrifau'r Penrhyn, 38-9). Canwyd ei glodydd gan nifer o feirdd cyfoes - Cynfrig ap Dafydd Goch, Dafydd ab Edmwnd, Guto'r Glyn, Rhys Goch Eryri a Robin Ddu (NLW MS 3051D , 493, 495, 498, 542; Llanstephan MS 118 , Llanstephan MS 78 ; Gwaith Dafydd ab Edmwnd, gol. T. Roberts, 107; Gwaith Guto'r Glyn, gol. J. Ll. Williams ac I. Williams, 52, 55; Iolo Goch ac Eraill, gol. H. Lewis, T. Roberts ac I. Williams, 307; H. T. Evans, Wales and the Wars of the Roses, 14.

Nid hawdd bob amser gwahaniaethu rhwng Gwilym Fychan a'i fab ac aer o'i briodas gyntaf sef

WILLIAM GRIFFITH (c. 1445 - 1505/6)

Priododd ef (1) Joan Troutbeck, gweddw Syr William Butler o Bewsey, sir Gaer. Yr oedd ei mam hi, Margaret, yn ferch i Syr Thomas Stanley (c. 1406 - 1459), y barwn Stanley cyntaf. Yr oedd William Griffith felly yn nai drwy briodas i Thomas, yr Iarll Derby cyntaf (1435 - 1504), dolen gydiol arall â theulu Stanley (Dwnn, Visitations, ii, 167; llawysgrifau'r Penrhyn 12; D.N.B., liv, 76; Ormerod, Cheshire, ii, 42). Yn 1476 disgrifiwyd ef fel ' gwas y brenin ', a ' marsial neuadd y brenin ' (swydd a ddaliesid gan ei dad), pan roddwyd iddo flwydd-dal o £18. 5s. 0d. gan Edward IV. Adnewyddwyd y rhodd hon gan Risiart III ym mis Mawrth 1484 (Cal. Pat. Rolls, 1476-85, 18, 418). Penodwyd ef yn siambrlen Gogledd Cymru gan Risiart III, ar ŵyl Mihangel 1483, a chadarnhawyd y penodiad gan Harri VII o fewn mis i frwydr Bosworth (Davies, Conway and Menai Ferries, 48; Owen, Manuscripts rel. to Wales in the Brit. Mus., ii, 147; Cal. Pat. Rolls, 1485-94, 5). Awgrymir gan ei yrfa iddo ddilyn yn glós esiampl ei berthynas, yr iarll Derby ddau wynebog, a cheir prawf ym marddoniaeth Lewis Môn iddo fod yn gydgarcharor â'r Arglwydd Strange, aer Derby, yn Nottingham, yn union cyn brwydr Bosworth, pan gipiwyd y gŵr hwnnw fel gwystl oherwydd ansicrwydd teyrngarwch ei dad. Hwyrach iddo hefyd fod cyn agosed i farwolaeth â'r gŵr hwnnw y noson cyn y frwydr. Ceir cyfeiriadau llai eglur gan Dudur Aled hefyd at yr argyfwng hwn yng ngyrfa William Griffith (Gairdner Richard III, arg. 1898, 227-38; NLW MS 3051D , Mostyn 467; Gwaith Tudur Aled, gol. T. Gwynn Jones, i, 143). Yr oedd ganddo gysylltiad dylanwadol ag eraill heblaw teulu Stanley. Ymddengys iddo briodi, fel ail wraig, Elizabeth Grey, wyres Reginald, y trydydd barwn Grey o Ruthin (gelyn Owain Glyndŵr), a chyfnither John Grey, Arglwydd Ferrers o Groby (1432 - 1461), gŵr cyntaf Elizabeth Woodville, yn ddiweddarach gwraig Edward IV (D.N.B., xxiii, 193, 197; Williams, Observations on the Snowdon Mountains, 1802, 174). Rhaid bod y briodas hon wedi ei ddwyn i gysylltiad personol â theuluoedd grymus Grey a Woodville, a gellid cael esboniad yma ar bresenoldeb gŵr o'r enw William Griffith ar gyngor Edward IV, 8 Awst 1482 (Gairdner, op. cit., 338-9).

Parhaodd fel siambrlen Gogledd Cymru tan Harri VII hyd 1490 pan ddilynwyd ef gan Syr Richard Pole (Davies, Conway and Menai Ferries, 48, 68). Urddwyd ef yn farchog pan wnaethpwyd Arthur yn dywysog Cymru yn 1489, a pharhaodd i wasanaethu ar nifer o gomisiynau yng Ngogledd Cymru (Cal. Pat. Rolls, 1485-94, 86, 354). Bu farw 1505-6 (llawysgrifau'r Penrhyn 44-5). Ymhlith beirdd eraill canodd Tudur Penllyn, Dafydd Pennant, Dafydd Llwyd ap Llywelyn, Lewis Môn a Thudur Aled iddo. (NLW MS 3051D , Llawysgrifau Mostyn 467, 504, 532, 535; Gwaith Tudur Aled, gol., T. Gwynn Jones, i, 142).

WILLIAM GRIFFITH (c. 1480 - 1531)

Mab William Griffith. Nid yw'n ymddangos mewn unrhyw swydd hyd 1508 pan ddisgrifiwyd ef fel ' gwas y brenin ', ac ' ysgwier y corff ', a'i benodi yn siambrlen Gogledd Cymru. Parhaodd i ddal y swydd honno hyd ei farwolaeth, ac eithrio un cyfnod byr yn 1509 pan ddisodlwyd ef gan Charles Brandon, yn ddiweddarach Dug Suffolk (Cal. Pat. Rolls, 1494-1509, 569; Davies, Conway and Menai Ferries, 57; L. and P. Henry VIII, vol. 1, part i, 257, 78, a vol. IV, part i, 1941; D.N.B., vi, 218). Ceir peth tystiolaeth am gysylltiad personol rhwng y ddau ddyn. Yr oeddynt ill dau yn ' ysgwieriaid y corff ' ar yr un adeg, ac yn 1516 penododd Brandon Riffith fel un o'i ddirprwy ustusiaid yng Ngogledd Cymru, gan ei ddisgrifio yn y ddogfen a'i apwyntiai yn 'berthynas drwy waed' (llawysgrifau'r Penrhyn 48). Gwasanaethodd Griffith dan Brandon yn yr ymgyrch yn Ffrainc yn 1513. Yr oedd yn bresennol yng ngwarchae Thérouanne, ym mrwydr yr ysbardunau, ac yng ngwarchae Tournai ym mis Awst 1513, ac urddwyd ef yn farchog yn Tournai, 25 Medi 1513 (L. and P. Henry VIII, vol. I, part i, 1176, 1496, part ii, 2301, 2480, 2575). Cyfeirir at ei ran yn yr ymgyrch ym marddoniaeth Lewis Môn, Huw Llwyd ap Dafydd, Tudur Aled a Gruffydd ap Tudur ap Hywel, (NLW MS 3051D , llawysgrifau Mostyn 233, 520, 523, 537, 585; llawysgrifau Caerdydd 2, 103; Gwaith Tudur Aled, gol., T. Gwynn Jones, i, 146). Ymddengys bod cysylltiadau agos rhyngddo hefyd â Syr Rhys ap Thomas o Ddinefwr. Jane, merch Syr Thomas Stradling, o St. Donats, Sir Forgannwg, a'i wraig, Joan, merch Thomas Mathew o Radyr, Sir Forgannwg, oedd ei wraig gyntaf. Bu farw Syr Thomas Stradling yn 1480 ac yn fuan wedyn priododd ei weddw Syr Rhys ap Thomas (fel ei ail wraig). Pwysleisir y cysylltiad rhwng William Griffith a Syr Rhys gan Lewis Môn yn ei ganu i Riffith. Yr oedd Griffith ap Rhys (ganwyd c. 1480), mab Syr Rhys, a William Griffith, ill dau yn y Llys ar yr un adeg. Yr oedd rhyw Riffith o'r Penrhyn (William Griffith yn ôl pob tebyg). yn bresennol yn y twrneimant a gynhaliwyd gan Syr Rhys yng Nghaeryw yn 1507 (gweler yr erthyglau ar Stradling a Mathew; NLW MS 3051D , llawysgrifau Mostyn 470, 581; Cambrian Register, 1795, 49-144). Jane, merch John Puleston 'Hen' o Bersham (gweler yr erthygl ar deulu Puleston), oedd ei ail wraig, a William, y mab hynaf o'r briodas hon, oedd sylfaenydd teulu Griffith Trefarthen (Griffith, Pedigrees, 125, 185; a'r erthygl, Griffith, John, 16eg ganrif). Heblaw'r beirdd a enwyd eisoes, canodd y rhai a ganlyn i William Griffith - Mathew Brwmffild, Dafydd Pennant, Ifan Dylyniwr, Dafydd Trefor, Ifan ap Madog, Lewis Daron a Thudur Aled (NLW MS 3051D , llawysgrifau Mostyn 529, 532, 556, 559, 562, 566, 569, 572, 575; Cynfeirdd Lleyn, gol., Myrddin Fardd, 195; Gwaith Tudur Aled, gol., T. Gwynn Jones, i, 145). Ef oedd un o'r tri ysgwier a fu'n ymwneud ag eisteddfod Caerwys yn 1523 (Llên Cymru, ii, 130).

Bu ei fab hynaf, William, farw yn ieuanc, a'r ail fab a'i dilynodd (P.R.O. Min. Acc., 4948).

EDWARD GRIFFITH (1511 - 1540)

Ganwyd 18 Mai 1511. Bu ef yn gohebu â Thomas Cromwell, yn bennaf ynghylch ei gweryl â Richard Bulkeley o Fiwmares (gweler dan deulu Bulkeley). Talai flwydd-dal o ddeg marc i Gromwell am rai blynyddoedd, ond bu'n aflwyddiannus yn ei gais i feddiannu brodordy Dominicaidd Bangor ar ei ddiddymiad. Efe, yn ôl pob tebyg, oedd yr Edward Griffith (iwmon y gosgorddlu) y rhoddwyd melin ddŵr iddo yn arglwyddiaeth Dinbych yn 1537. Yr oedd yn aelod o nifer o gomisiynnau yng Ngogledd Cymru hyd fis Ebrill 1539, ond ym mis Hydref y flwyddyn honno anfonwyd ef gyda Syr William Brereton (D.N.B. Suppt., i, 264) i Iwerddon. Yr oedd ei gwmni (dau uwch gapten, tri is gapten, 250 o saethwyr, tri offeiriad a dau glerwr) yn gyfartal â chwmni Brereton. Yr oedd hefyd yn aelod o Gyfrin Gyngor Iwerddon. Bu farw o'r gwaedlif (flux) yn Nulyn, 11 Mawrth 1540. Priodasai Jane, merch Syr John Puleston o Bersham (L. and P. Henry VII, viii, 122, 644, 925, xii, part i, 539 (14), 655, 1154, xiii, part i, 384 (91), 1289, xiv, part i, 732, 802, 803, 816, part ii, 40, 616, 759, 782, 1539; xv, 74, 82, 199, 327, 342, 355). Ar ei farwolaeth dechreuodd cweryl hir rhwng RHYS GRIFFITH, ei frawd ieuaf, a hawliai'r ystadau fel etifedd gwrywaidd, a John Puleston (tad yng nghyfraith Edward Griffith), ar ran ei ferch a'i thri phlentyn (Jane, Catherine ac Ellen). Ceisiodd Puleston gael gofalaeth y plant gan Gromwell, a chynigiodd £40 iddo am ei ffafr. Cwynodd Rhys Griffith fod ei chwaer yng nghyfraith a'i thad wedi anrheithio'r Penrhyn gan adael dim ond y muriau moelion pan oedd ef yn absennol yn Iwerddon yn gwasanaethu'r brenin. Rhoddodd yr arglwydd ganghellor a meistr y Cwrt Gward eu dedfryd yn 1542, ond yr oedd y problemau a godasid heb eu datrys yn 1559. Hyd yn oed ar ôl marw Rhys Griffith yn 1580, yr oedd Syr Edward Bagnall, a briodasai un o ferched Edward Griffith, yn dadlau hawliau ei wraig yn y Cwrt Gward (llawysgrifau'r Penrhyn 50, 2197; Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, iii, 40; Lewis, Early Chancery Procs., 21. 22, 288, 290; Lewis a Davies, Augmentation Recs., 51; L. and P. Henry VIII, v. no. 724 (10), xv, 433, 661, xvii, 466, xix, 812 (16). Addenda, i, part ii, 1462; Cal. Pat. Rolls, Edward VI, iv, 36; Acts Privy Council, 1580-1, 289; P.R.O., Court of Requests Procs., bundle iv, no. 258, bundle vi, no. 210).

Cyfeirir at wrhydri Rhys Griffith (bu farw 1580) yn y rhyfeloedd yn Iwerddon ym marddoniaeth William Cynwal, a Siôn Brwynog, ac awgrymir gan Siôn Tudur iddo dreulio llawer o'i fywyd cynnar yn Llundain (NLW MS 3021F , NLW MS 3055D ; Llên Cymru, ii, 88-9). Priododd (1) c. 1526, Margaret, merch Morris ap John o Glenennau, a bu pum mab a dwy ferch o'r briodas hon. (2) c. 1551, Jane, merch Dafydd ap William ap Griffith o Gochwillan. (3) c. 1566, Catherine, merch Piers Mostyn o Dalacre, a bu dau fab o'r briodas hon, sef Piers a William (y mae Griffith, Pedigrees, 185, yn anghywir ynglŷn â'r priodasau hyn. Am yr ail briodas gweler llawysgrifau'r Penrhyn 58-61). Urddwyd ef yn farchog pan goronwyd Edward VI (1547), ac ar esgyniad Mari, cynigiwyd ef fel aelod seneddol cymwys dros sir Gaernarfon gan Nicholas Heath, archesgob Efrog ac arlywydd Cymru. Ni chafodd ei ethol, ond bu'n aelod seneddol dros fwrdeisdref Caernarfon yn 1555, ac yn uchel siryf sir Gaernarfon 1566-7 (Cal. Wynn Papers, 19; Williams, The Parliamentary History of the Principality of Wales, 1541-1895 , 65; Breeze, Kalendars, 52). Bu farw 30 Gorffennaf 1580 (llawysgrifau'r Penrhyn 78-82), a dilynwyd ef gan Birs Griffith, ei fab hynaf o'r drydedd briodas. Yn ystod ei fywyd ef prynwyd yr ystad gan John Williams (1582 - 1650), o'r teulu perthynol, Williams o Gochwillan.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.