Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



HARRIS, JOSEPH (1704-1764; Bywg., 320 a D.W.B, 342) Bedyddiwyd ef yn Nhalgarth, 16 Chwef. 1703/4. Cyfeiria Mr. E. G. Millward at y ffaith mai ‘Eliza Anne’ y gelwir Mrs. Madocks yn J. E. Griffith, Pedigrees, 315; felly hefyd yn Cynhaiarn MS. 80 yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, dogfen a ddywed fod Madocks wedi gadael ei holl eiddo i'w wraig Eliza Anne Madocks; dyma hefyd ei henw yn ôl Cynhaiarn MS. 79. Ni allai'r ddynes hon fod yn ail wraig i Madocks, oherwydd y mae digon o dystiolaeth (yn cynnwys y llawysgrifau a nodwyd) iddi fynd i fyw yn Nhregunter, Talgarth, a adawyd iddi gan ei hewythr, ar ôl marwolaeth ei gŵr. Er hynny, dywed Theophilus Jones yn bendant (Hist. Brecknock, 3ydd arg., iii, 47, ond yma'n atgynhyrchu'r argraffiad cyntaf a chyfoes) mai un ferch yn unig* oedd gan Samuel Hughes a'i wraig, ac yng nghofnod bedydd y ferch honno (17 Meh. 1786), enwir hi'n Amelia Sophia. Y mae'n amlwg mai'r un person sydd yma. Hwyrach iddi gashau ei henwau bedydd teyrngar ond rhodresgar, a mabwysiadu enwau symlach* — a hynny cyn ei phriodas gyntaf (â Roderick Gwynne), oherwydd geilw Poole (Brecknockshire, 102) hi'n ‘Eliza Anne Hughes’ yn ei gyfeiriad at y briodas honno. Gellir ychwanegu mai Eliza Anne oedd enw ei merch hefyd. Priododd y ferch J. W. Roche, a bu'n byw yn Nhregunter, — gelwir hi'n Eliza Anna Ermina ar ei charreg fedd (Theophilus Jones, op. cit., iii, 53).

Llyfryddiaeth:

  • … hefyd yn Jnl. W.B.S., iii, 256-7 (gyda llyfryddiaeth)
  • ac yn Cylch. Cymd. Hanes M.C., x, 80, xiii, 85-97.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.



Erbyn hyn rhaid diwygio'r fersiwn uchod. Gw. ‘Etifeddion Harrisiaid Trefeca’ yn Yng Nghysgod Trefeca, R. T. Jenkins, 1968, erthygl a ymddangosodd gyntaf yn Y Traeth, 1961. ‘Eliza Anne’ oedd hi (buasai ei chwaer, ‘Amelia Sophia’, f. yn 1794), un o ferched, nid unig ferch, Samuel Hughes. Ei gwr cyntaf hi oedd Roderick Gwynne, Buckland. Bu ef f. 20 Mawrth 1808, a phriododd hithau William Alexander Madocks, 2 Ebr. 1818.

Atodiadau a chywiriadau:

HARRIS, JOSEPH (1704-1764), ‘Assay-master at the Mint,’, mab hynaf Howel a Susannah Harris, Trefeca, a brawd i Howel a Thomas Harris [qq.v.]. Dygwyd ef i fyny'n of dan Thomas Powell, frawd ei fam, ond aeth i Lundain yn 1724, a daeth i sylw Halley, y seryddwr brenhinol. Anfonwyd ef ar ddwy fordaith i India'r Gorllewin (1725, 1730-2) i brofi effeithiolrwydd offerynnau morwriaethol. Bu wedyn yn athro mewn teuluoedd, ond yn 1737 penodwyd ef yn ddirprwy i'r ‘profwr’ yn y Bathdy (swydd a roddai iddo hawl i fyw yn Nhŵr Llundain); ac yn 1748 codwyd ef yn brif brofwr (‘Assay-master’). Cynhyrchodd lyfrau pwysig, megis The Description and Uses of the Celestial Globe and Orrery, 1729; aeth hwn i ddeg arg. erbyn 1768; A Treatise on Navigation, 1730; An Essay upon Money and Coins, 1757; A Treatise upon Optics, a gyhoeddwyd wedi ei f., yn 1775. Cadwodd ei gyswllt â'i deulu ac â'i fro; yn neilltuol, ymdrechodd yn ofer i ‘ddysgu synnwyr’ i'w frawd Howel — daeth yr holl ffordd i Drefeca i hebrwng Howel i Rydychen i ymaelodi yn y brifysgol; y mae 81 o'i lythyrau yng Nghasgliad Trefeca (Ll.G.C.) heb sôn am 49 o lythyrau Howel ato ef. Yr oedd yn un o hyrwyddwyr Cymdeithas Amaethyddol sir Frycheiniog, y gyntaf yng Nghymru, yn 1755. Cyfeirir ato ddwywaith yn Llythyrau'r Morysiaid (i, 183, a ii, 46 — noda'r diwethaf iddo roi gini i Oronwy Owen), a sonia llythyr arall gan Richard Morris (Cymm., xlix, 963) am ran Harris yn y gwaith o safoni pwysau a mesurau; yr oedd yn aelod o'r Cymmrodorion. Bu f. 26 Medi 1764, a chladdwyd yn Nhŵr Llundain. Ei wraig (a fu f. ym Mai 1763) oedd Anne, ferch a chydetifedd ei gymydog gynt Thomas Jones o Dredwstan. Daeth eu merch, ANNA MARIA HARRIS, yn wraig i Samuel Hughes (un o dystion priodas Elizabeth, ferch Howel Harris); hyhi a etifeddodd gyfoeth ei hewythr Thomas Harris [q.v.], ac felly y daeth Samuel Hughes ‘o Dregunter’ yn siryf Brycheiniog yn 1790. Cawsant ferch, ELIZA ANNE HUGHES, a briododd ddwywaith. Ei gŵr cyntaf oedd Roderick Gwynne; yr ail oedd William Alexander Maddocks [q.v.] D. R. Hughes yn Cylch. Cymd. Hanes M.C., xxiii, 18-21).

Llyfryddiaeth:

  • D.N.B.;
  • M. H. Jones, T.L., 44-7;
  • Jnl. W.B.S., iii, 256-7; etc.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.

Atodiadau a chywiriadau:

HARRIS, JOSEPH (1704-1764; Bywg., 320 a D.W.B, 342) Bedyddiwyd ef yn Nhalgarth, 16 Chwef. 1703/4. Cyfeiria Mr. E. G. Millward at y ffaith mai ‘Eliza Anne’ y gelwir Mrs. Madocks yn J. E. Griffith, Pedigrees, 315; felly hefyd yn Cynhaiarn MS. 80 yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, dogfen a ddywed fod Madocks wedi gadael ei holl eiddo i'w wraig Eliza Anne Madocks; dyma hefyd ei henw yn ôl Cynhaiarn MS. 79. Ni allai'r ddynes hon fod yn ail wraig i Madocks, oherwydd y mae digon o dystiolaeth (yn cynnwys y llawysgrifau a nodwyd) iddi fynd i fyw yn Nhregunter, Talgarth, a adawyd iddi gan ei hewythr, ar ôl marwolaeth ei gŵr. Er hynny, dywed Theophilus Jones yn bendant (Hist. Brecknock, 3ydd arg., iii, 47, ond yma'n atgynhyrchu'r argraffiad cyntaf a chyfoes) mai un ferch yn unig* oedd gan Samuel Hughes a'i wraig, ac yng nghofnod bedydd y ferch honno (17 Meh. 1786), enwir hi'n Amelia Sophia. Y mae'n amlwg mai'r un person sydd yma. Hwyrach iddi gashau ei henwau bedydd teyrngar ond rhodresgar, a mabwysiadu enwau symlach* — a hynny cyn ei phriodas gyntaf (â Roderick Gwynne), oherwydd geilw Poole (Brecknockshire, 102) hi'n ‘Eliza Anne Hughes’ yn ei gyfeiriad at y briodas honno. Gellir ychwanegu mai Eliza Anne oedd enw ei merch hefyd. Priododd y ferch J. W. Roche, a bu'n byw yn Nhregunter, — gelwir hi'n Eliza Anna Ermina ar ei charreg fedd (Theophilus Jones, op. cit., iii, 53).

Llyfryddiaeth:

  • … hefyd yn Jnl. W.B.S., iii, 256-7 (gyda llyfryddiaeth)
  • ac yn Cylch. Cymd. Hanes M.C., x, 80, xiii, 85-97.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.



Erbyn hyn rhaid diwygio'r fersiwn uchod. Gw. ‘Etifeddion Harrisiaid Trefeca’ yn Yng Nghysgod Trefeca, R. T. Jenkins, 1968, erthygl a ymddangosodd gyntaf yn Y Traeth, 1961. ‘Eliza Anne’ oedd hi (buasai ei chwaer, ‘Amelia Sophia’, f. yn 1794), un o ferched, nid unig ferch, Samuel Hughes. Ei gwr cyntaf hi oedd Roderick Gwynne, Buckland. Bu ef f. 20 Mawrth 1808, a phriododd hithau William Alexander Madocks, 2 Ebr. 1818.

Atodiadau a chywiriadau:

HARRIS, JOSEPH (Bywg., 320) Bedyddiwyd ef 16 Chwef. 1703/4. Ysgrifennodd amryw o weithiau seryddol a mathemategol yn ddienw a dyfeisiodd y ‘New Azimuth Compass’ a'r ‘Forestaff’. Cynghorodd lawer ar weinidogion y llywodraeth (heb fod hynny'n wybyddus oherwydd ei swildod) a derbyniodd bensiwn o £300 y flwyddyn gan y brenin yn 1753. Ef, i raddau helaeth, fu'n gyfrifol am safoni pwysau a mesurau'r deyrnas ganol y 18 g.

Llyfryddiaeth:

  • Cylch. Cymd. Hanes M.C., 13 (1928), 85;
  • J. Thickens, H.H. yn Llundain (1934), 9;
  • R. Bennett, Blyn. Cyntaf Meth. (1909), 37;
  • Report from the Committee appointed to enquire into the original Standards of Weights and Measures (House of Commons 2 June 1758), 49 (12 Apr. 1759), 7.

Awdur:

Dr Llewelyn Gwyn Chambers, Bangor