HORSFALL TURNER, ERNEST RICHMOND (1870 - 1936), ysgolfeistr a hanesydd lleol

Enw: Ernest Richmond Horsfall Turner
Dyddiad geni: 1870
Dyddiad marw: 1936
Rhiant: Joseph Horsfall Turner
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolfeistr a hanesydd lleol
Maes gweithgaredd: Addysg; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Edward Ronald Morris

Ganwyd 13 Ionawr 1870 yn Brighouse, yn fab i Joseph Horsfall Turner, yntau hefyd yn ysgolfeistr a hanesydd lleol. Addysgwyd ef yn ysgol ei dad a dechreuodd ei yrfa fel athro yn yr ysgol honno. Yn ddiweddarach graddiodd ym Mhrifysgol Llundain. Bu'n athro ym Mlaenau Ffestiniog ac ym Mae Colwyn, ac yn 1895 penodwyd ef yn brifathro ysgol sir Llanidloes. Dysgodd Gymraeg, ac yna dechreuodd ymddiddori mewn hanes a daearyddiaeth leol. Ymhlith gweithiau eraill cyhoeddodd Wanderings in County Cardigan (d.d.), a The Municipal History of Llanidloes, 1908. Yn y rhain ceir darluniau pen ac inc o'i waith ef ei hun, oherwydd yr oedd yn ddarluniwr medrus. Yn ddiweddarach yn ei fywyd, yr oedd hefyd yn arlunydd mewn dyfrlliw. Wedi iddo ymddeol yn 1932 gwnaeth lawer o ymchwil ynglŷn â hanes y mudiad Siartaidd yn Sir Drefaldwyn, ac y mae ei lawysgrifau yn awr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Etholwyd ef yn aelod o gyngor tref Llanidloes yn 1901, a bu'n faer y dref ddwywaith, 1908 a 1927-8. Yn 1897 priododd Annie, merch J. N. Crowther, a bu iddynt un mab, a fu'n glerc tref Aberystwyth. Bu ei wraig farw yn 1923. Bu ef ei hun farw yn Llanidloes 13 Mawrth 1936 a chladdwyd ef yno.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.