INNES, JOHN , ‘Ynys Hir ’, (1853?-1923; D.W.B., 1130), cyfrifydd a hynafiaethydd,
a anwyd yn Campbelltown, swydd Argyle, yn yr Alban. Penodwyd ei dad, Robert Vertue Innes, yn gasglwr tollau dros ranbarth de Cymru yn Llanelli, sir Gaerfyrddin, a chymerodd ran amlwg yn sefydliad ysgol uwchradd yn y dref tua 1863. Cyfrifydd oedd John Innes yng ngwasanaeth y Mri. Nevill Druce, yn Llanelli. Ar 9 Awst 1883 yn eglwys yr Holl Saint, Llanelli, priododd ag Alice Ann Mary, unig blentyn y diweddar Alfred C. G. Rees o Ystumllwynarth, a ganwyd tri mab iddynt rhwng 1884 a 1887, — Alfred George (gw. Who's Who in Wales, arg. 1920, t. 203), John (bed. 24 Tach. 1885), a James Dickson yr arlunydd (gw. yr erthygl flaenorol). Ym mis Gorff. 1913 oherwydd ei iechyd symudodd Innes i Whitchurch ger Tavistock yn swydd Dyfnaint, lle hefyd y bu f. 7 Mai 1923 yn 70 mlwydd oed. Ef oedd un o arloeswyr sefydlu'r ‘Mechanics Institute’ a fabwysiadwyd wedi hynny gan y dref a'i wneud yn llyfrgell gyhoeddus Llanelli. Gweithredodd Innes fel cadeirydd pwyllgor y llyfrgell am rai blynyddoedd cyn ymadael â'r dref. Traddododd nifer o ddarlithiau ar destunau ynglŷn â hanes lleol ardal Llanelli, ac o'r diwedd darbwyllwyd ef i'w gwneud yn llyfr. Yn 1902, gyda chydweithrediad Arthur Mee, cyhoeddodd Innes lyfr Old Llanelly. Y mae'n waith o ansawdd llenyddol go uchel, yn cynnwys hanesion diddorol a chyffyrddiadau ysgafn yn ogystal â ffeithiau hanesyddol. Ymddiddorai Innes hefyd mewn ffotograffi a daeareg, ac yr oedd ganddo gasgliad gwych o ffosilau wedi'u casglu o weithfeydd a chwareli'r cylch.
Llyfryddiaeth:
- South Wales Press, yn enwedig 14 Awst 1883, Meh.-Gorff. 1913 a 9 Mai 1923;
- Llanelly and County Guardian, 10 Mai 1923,
- a Dogfennau'r Eglwys yng Nghymru yn Ll.G.C.
Awdur:
Hywel David Emanuel, M.A., (1921-70), Aberystwyth