IORWERTH ap MADOG (fl. 1240?-68; D.W.B., 1130), gŵr cyfraith a enwir yn fynych mewn amryw lawysgrifau o ‘Ddull Gwynedd’ y cyfreithiau Cymreig.
Mewn un llawysgrif gelwir ef yn fwy pendant yn ‘Iorwerth ap Madog ap Rhahawd’, a gwnai hyn ef yn frawd i'r bardd Einion ap Madog (fl. c. 1237; Bywg., 189), perthynas a dderbynir gan Syr John Lloyd, Hist. W., 355. Byddai felly yn un o ddisgynyddion Cilmin Droed-ddu (9ed g.), ac yn perthyn i'r teulu y daethpwyd i'w adnabod yn ddiweddarach fel teulu Glyn, Glynllifon, sir Gaernarfon (Bywg., 262 a 263-4), teulu a fagodd gyfreithwyr o gryn fri mewn cyfnod diweddarach. Ceir ymchwiliad manwl i gysylltiadau teuluol Iorwerth yn Cylch. Ll.G.C. (gw. cyfeiriad isod). Hyd yn oed cyn amser Iorwerth buasai'r teulu yn amlwg ym myd y gyfraith a gweinyddiaeth. E.e. bu cefnder tadcu Iorwerth, sef CYFNERTH (fl. c. 1210) yn gyfrifol am lunio llyfr cyfraith a gysylltid yn wreiddiol â Gogledd Cymru, ond mewn argraffiadau diweddarach â De Cymru. Yn ôl pob tebyg, gor-ewythr Iorwerth, YSTRWYTH (fl. 1204-22; gw. Lloyd, Hist. W., 622, n. 55 a mynegai), oedd y clerigwr o'r enw hwnnw a wasanaethai fel ysgrifennydd a chennad i Lywelyn Fawr. Credir mai Iorwerth a roddodd ei ffurf derfynol i ‘Ddull Gwynedd’, y gorau'i drefniant a'r mwyaf cyflawn o'r Dulliau. Y mae'n amlwg y cyfrifid ef yn ei ddydd yn awdurdod uchel ar y gyfraith, ond ni ellir penderfynu'n fanwl pa beth yn union a ychwanegodd ef at gorff y gyfraith. Erthygl Dafydd Jenkins, ‘Iorwerth ap Madog’, yn Cylch. Ll.G.C., viii, 164-70, yw ffynhonnell y cyfan ymron o'r nodyn hwn. Ceir disgrifiad byr a chryno o'r gwahanol fersiynau a llawysgrifau'r Cyfreithiau yn Lloyd, Hist. W., 354-6.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.