JENKINS, EVAN (1781-1863), emynydd

Enw: Evan Jenkins
Dyddiad geni: 1781
Dyddiad marw: 1863
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: emynydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn rhan uchaf plwyf Llansamlet, Sir Forgannwg. Gwehydd oedd ef, a bu'n gweithio am beth amser yng Nghastell Nedd a Llantrisant, ond dychwelodd i Lansamlet lle daeth yn aelod ac yn flaenor yng Nghapel-y-Cwm (M.C.). Aeth ei ddau fab (o ddwy briodas) i Abertawe fel gwehyddion, ac ymaelodi yn eglwys Trinity (M.C.) yno. Ymunodd eu tad â hwy, ond cerddai allan yn gyson i'r oedfaon yng Nghapel-y-Cwm. Pery un emyn o'i eiddo (yn dechrau - Duwioldeb yn ei grym …) yn boblogaidd o hyd, ac ymddengys mewn llyfrau emynau diweddar. Bu farw 4 Ebrill 1863, yn 82 oed, a chladdwyd ef o flaen Capel-y-Cwm.

Glöwr oedd ei frawd hynaf, WILLIAM JENKINS, ganwyd 18 Ebrill 1779, ac yr oedd hefyd yn geidwad capel Philadelphia (M.C.), Treforys. Ysgrifennodd ef farwnadau ac emynau (yn arbennig marwnad John Evans, Llwynffortun, 1779 - 1847). Argraffwyd rhai o'i emynau gan Daniel Evans (1774 - 1835) yn ei gasgliad Swp o Ffigys, a gosodwyd un fel anthem gan D. Emlyn Evans.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.