JONES, ROBERT ALBERT (1851 - 1892), bargyfreithiwr ac addysgydd

Enw: Robert Albert Jones
Dyddiad geni: 1851
Dyddiad marw: 1892
Priod: Harriet Agnes Jones (née Thompson)
Rhiant: John Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bargyfreithiwr ac addysgydd
Maes gweithgaredd: Addysg; Cyfraith
Awdur: Llewelyn Gwyn Chambers

Ganwyd 16 Medi 1851. Yr oedd yn fab i'r Parch. John Jones, Pen-y-bryn, Wrecsam, ac felly yn or-wyr i Robert Jones, Rhoslan. Yr oedd yn gefnder i ' Ioan Maethlu '. Bu yn ysgol ramadeg Manceinion, ac yn 1870 aeth i goleg Corff Crist, Rhydychen. Yn 1874, graddiodd yn B.A. yn y dosbarth cyntaf mewn Mathemateg. Fe'i galwyd i'r bar yn Lincoln's Inn 7 Mai 1879, ac wedi hynny aeth i fyw i Lerpwl. Yr oedd incwm preifat ganddo ac nid oedd raid iddo'i gynnal ei hun.

Ymdaflodd i weithgareddau cyhoeddus a bu'n gyd-drysorydd â Robert Lewis, A.S. i Bwyllgor Gweithiol Cynghrair Rhyddfrydol gogledd Cymru er iddo beidio â chytuno â Gladstone ar Iwerddon. Yr oedd ganddo ddiddordeb mawr ym mhwnc y tir, ac ysgrifennodd lyfr The Land question and a Land bill with special reference to Wales yn 1887 a'i gyhoeddi ar ei gost ei hun. Bu cyfieithiad Cymraeg ohono yn 1888. Gwasanaethodd ar amryw bwyllgorau, gan gredu mewn, a dadlau dros addysg rydd anenwadol. Bu'n aelod blaenllaw o gyngor coleg y gogledd o'r dechrau, a theithiodd filoedd o filltiroedd ar ei gost ei hun dros y coleg. Rhoes wasanaeth didâl i'r coleg, a bu hefyd yn hael i'w drysorfa. Cynigiwyd swydd cofrestrydd iddo, ond fe'i gwrthododd. Bu'n gyd-ysgrifennydd â W. S. de Winton (Hwlffordd) o Gynhadledd Gyffredinol Pwyllgor Unedig Addysg Cymru a Sir Fynwy. O'r mudiad hwn y daeth y syniad o Brifysgol Cymru, ac i raddau helaeth, bu R. A. Jones, a fu'n ysgrifennydd i bwyllgor y Brifysgol, yn gyfrifol am dynnu allan gynllun cyntaf Prifysgol Cymru.

Dyn nerfus bregus ei iechyd ydoedd, ac o'r golwg y gwnâi fwyaf o'i waith, ei gas peth oedd ymddangos o flaen y cyhoedd. Bu farw 19 Hydref 1892, yn ei gartref yn Lerpwl, ac fe'i claddwyd ym mynwent Toxteth, Lerpwl. Ar ôl iddo farw, casglwyd dros bum cant i gronfa goffa a defnyddir y llog hyd heddiw'n wobr mathemateg uwch yng ngholeg y gogledd.

Priododd 26 Chwefror 1890, â Harriet Agnes Thompson, merch Joseph Thompson, bonheddwr, o Willow Hall, Sowerby Bridge, Sir Efrog. Bu hithau farw, yn 47 oed, ar 4 Tachwedd 1902, ac fe'i claddwyd ym mynwent Toxteth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.