JONES, DANIEL ANGELL (1861 - 1936). llysieuydd ac awdurdod ar redyn a mwsogl

Enw: Daniel Angell Jones
Dyddiad geni: 1861
Dyddiad marw: 1936
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llysieuydd ac awdurdod ar redyn a mwsogl
Maes gweithgaredd: Natur ac Amaethyddiaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Ganwyd 14 Gorffennaf 1861 yn Lerpwl, a bu'n ysgolfeistr ym Machynlleth a Harlech. Yr oedd ganddo wybodaeth arbennig am blanhigion siroedd Meirionnydd a Chaernarfon, ac yr oedd yn awdurdod cydnabyddedig ar fwsogl ym Mhrydain. Enillodd wobr yn eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog, 1898, am draethawd ar blanhigion Sir Feirionnydd. Ef a ail-ddarganfu, ar Gader Idris, yn 1901, y planhigion a elwir hairy greenweed, y tybid ar y pryd ei fod wedi diflannu. Yr oedd yn un o aelodau cynnar y Moss Exchange Club, a phan ffurfiwyd y British Bryological Society penodwyd ef yn ysgrifennydd y gymdeithas honno. Yn ddiweddarach bu'n llywydd y gymdeithas. Cafodd radd M.Sc., Prifysgol Cymru yn 1918. Wedi iddo ymddeol yn 1924 bu'n byw yn Cheltenham ac ym Mryste. Etholwyd ef yn aelod o'r Linnœan Society yn 1925. Ef a ysgrifennodd yr atodiad ar ' The Flora of Dolgelley and the Neighbourhood ' a geir yng nghyfrol T. P. Elis, The Story of Two Parishes, Dolgelley and Llanelltyd, 1928. Bu farw ym Mryste 6 Hydref 1936, a rhannwyd ei gasgliad o blanhigion rhwng yr Amgueddfa Brydeinig ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.