JONES, DAVID OWEN (1856 - 1903), gweinidog Wesleaidd ac awdur

Enw: David Owen Jones
Dyddiad geni: 1856
Dyddiad marw: 1903
Priod: Jane Jones (née Jones)
Rhiant: Jane Jones
Rhiant: Owen Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Wesleaidd ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Margaret Beatrice Davies

Ganwyd 18 Chwefror 1856, ym Mhenmachno, yn fab i Owen a Jane Jones. Hanai o deulu Wesleaidd. Saer maen oedd ei dad i gychwyn ond cododd i fod yn llwyddiannus ei amgylchiadau a chafodd y mab fynd i ysgol ramadeg Llanrwst ac oddi yno i Grove Park, Wrecsam. Treuliodd ei flynyddoedd cyntaf yn Llugallt y tu allan i Benmachno gyda'i daid a'i nain. Anfonwyd ef i brif swyddfa banc y N. & S.W. yn Lerpwl ac ar ôl ei dymor paratoawl yno daeth i'r Drefnewydd, Sir Drefaldwyn. Dywedir iddo ddechrau cyfansoddi pregethau pan yn 15 oed, eithr wedi dod i'r Drefnewydd y dechreuodd bregethu, a hynny gyda'r Annibynwyr i gychwyn pan yn 18 oed. Yna trodd yn ôl at y Wesleaid, ac yn 1874 cafodd alwad fel pregethwr i'r Borth, Sir Aberteifi. Gorffennodd ei dymor prawf yng nghylchdeithiau Llanfyllin, Llanfaircaereinion a Bangor, a chafodd ei ordeinio yn 1879 (1875 yn ôl Asaph). Yn ystod yr un flwyddyn priododd â Jane Jones, merch John P. Jones, Llanfairfechan, a bu iddynt 3 o blant. Bu'n gweinidogaethu yn - Caerwys (1879); Penmachno (1880); Bethesda (1883); Birkenhead (1885); Manceinion (1888); Lerpwl (1891); Llanrhaiadr-ym-Mochnant (1894); Manceinion (1897): Lerpwl (1899); Manceinion (1902), a threuliodd 15 mlynedd mewn dwy gylchdaith. Yr oedd yn gymeriad boneddigaidd a phwyllog, a chyfrifid ef yn un o brif bregethwyr ei enwad. Bu'n olygydd Y Winllan am gyfnod. Ysgrifennodd lawer o erthyglau i gyfnodolion ei enwad - Y Mynegydd, Y Geninen, Yr Hysbysydd, ac i'r wasg. Cyhoeddodd hefyd Esboniad ar Efengyl Marc yn 1902. Daeth i Lanfairfechan am flwyddyn o seibiant oherwydd afiechyd a bu farw yno 7 Awst 1903 yn 47 oed, a chladdwyd ef yno.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.