JONES, RICHARD (1757? - 1814), clerigwr ac awdur

Enw: Richard Jones
Dyddiad geni: 1757?
Dyddiad marw: 1814
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 1757?. Pan urddwyd ef yn ddiacon (Bangor) 1782, ni phriodolwyd gradd iddo, ond disgrifid ef fel B.A. o goleg yr Iesu Rhydychen, pan gafodd ei urddo'n offeiriad yn 1783. Trwyddedwyd ef i guradiaeth Rhuthun, a hwyrach ei fod yn is athro yn ysgol Rhuthun (gwyddys am enghreifftiau eraill o hyn yn y dref), oherwydd yn y cofnod am ei farwolaeth yn The Cambrian dywedir ei fod yn ' critically versed in the Hebrew, Greek and Latin languages '. Penodwyd ef yn rheithor y plwyf cyfagos, Llanhychan, 10 Gorffennaf 1806, ond ymddengys iddo barhau i fod yn gurad Rhuthun - yn 1810 penodwyd ef i draddodi darlithiau hwyrol yno. Bu farw yn Llanhychan, 23 Ebrill 1814, yn 57 oed, yn ôl y cofnod am ei farwolaeth. Cyhoeddodd esboniadau ar y pedair efengyl (seriatim, 1801, 1802, 1804, 1807), a Taer alwad ar yr anystyriol (Dolgellau, 1806). Ymddengys yn sicr mai ef hefyd oedd awdur Undeb Crefyddol, neu Rybudd yn erbyn Schism (Wrecsam, 1792), gwaith a atebwyd yn 1793 gan Thomas Jones (1756 - 1820), yn ei Sylwadau ar Draethawd a elwir Undeb Crefyddol, etc.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.