JONES, DAVID STANLEY (1860 - 1919), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: David Stanley Jones
Dyddiad geni: 1860
Dyddiad marw: 1919
Priod: Florence Jones (née Williams)
Plentyn: Enid Davies (née Jones)
Rhiant: Elizabeth Jones
Rhiant: Abrahan Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Richard Griffith Owen

Ganwyd 28 Mehefin 1860 ym Mhantrasol, plwy Llannarth, Ceredigion, yn un o bedwar o blant Abraham ac Elizabeth Jones, y naill o ardal Llandysul a'r llall o dueddau Llangeitho. Symudodd y teulu i dyddyn bychan o'r enw Tŷ'rhos ac fel ' Dafi Tŷ'rhos ' yr adnabyddid ef gan ei gyfoedion. Er cynnal y teulu gorfu i'w dad fyned i weithio i Sir Forgannwg ac ar ei fam y disgynnodd pwys hyfforddi'r teulu. Lled ddi-lun a fu ei addysg forëol; yn ysgol Talygarreg y bu gan mwyaf â'i ysgolfeistr yno oedd John Thomas, ŵyr i'r Dr. Phillips Neuadd-lwyd. Derbyniwyd ef yn aelod yn eglwys Pisgah, Talgarreg, dan weinidogaeth y Parch. Robert Thomas.

Prentisiwyd ef, cyn bod yn 12 oed, yn deiliwr ac ar derfyn ei brentisiaeth aeth i weithio i Gwrtnewydd ac oddi yno i fasnachdy yn Llanbedr Pont Steffan, eithr ni bu'r symudiad o fawr mantais foesol iddo. Anesmwythodd yma a throes ei wyneb tua gogledd Cymru i Ffestiniog ond lled ddilewych a fu'r ymdaith hon. Wedyn aeth i'r De i gyffiniau Bedlinog a'r Deri. Ymsefydlodd gyda chydnabod yn y Deri ac yno y cymhellwyd ef i ddechrau pregethu tua diwedd 1880. Yn y man aeth am gwrs addysgol i ysgol ramadeg Pencader ac yna i'r Ceinewydd dan C. J. Hughes, B.A. Ei anghaffael mwya bryd hyn oedd ei ddiffyg cydnabyddiaeth â'r iaith Saesneg. Ymaelododd ym Mhen-y-cae a bu'r gweinidog, y Parch. J. M. Prytherch, yn bob swcwr iddo; buan y daeth yn bregethwr derbyniol yn eglwysi'r cylch. Wedyn aeth i goleg yr Annibynwyr, Bryste, ac arhosodd yno ddwy flynedd a daeth yn abl i bregethu yn Saesneg a chafodd gynnig galwad i eglwys fechan Seisnig gerllaw, eithr ar y weinidogaeth Gymraeg y rhoesai ei fryd. Aeth i goleg y Brifysgol Caerdydd a chafodd alwad i eglwys y Porth, Rhondda. Urddwyd ef yn weinidog yno yn Hydref 1887. Ymroes i'w waith gydag egni mawr a chyn hir daeth ei enw'n adnabyddus fel pregethwr a chafodd gynnig ar rai o eglwysi lluosocaf yr enwad, eithr galwad o'r wlad, o Fethesda a Llantysilio, Penfro, a dderbyniodd a dechreuodd ei weinidogaeth yno yn haf 1891. Ymbriodasai â Florence, merch Idris Williams y Porth, lleygwr amlwg yn yr enwad a phrofodd hi iddo yn gymar ddelfrydol. Cawsant bedwar o blant. Parhâi ei enw i fynd ar lêd a cherddodd y sôn amdano hyd eithaf y gogledd ac yn 1895 gwahoddwyd ef i fod yn olynydd i E. Herber Evans yn eglwys Salem, Caernarfon, a chychwynnodd yno yn Ionawr 1896. Cyfrifid y symudiad ar y pryd yn un anturus ar ei ran, eithr ymroes i gwrdd â'r cyfrifoldeb mawr a osodwyd arno. Bu yn Salem yn eithriadol lwyddiannus hyd ei farw 7 Chwefror 1919. Claddwyd ef yng nghladdfa newydd Caernarfon.

O'r braidd y dyry'r pregethau o'i eiddo a gyhoeddwyd, mwy nag yn hanes ei gyfoeswyr, syniad teg o'i safle fel pregethwr, a phregethwr ydoedd yn anad dim arall. Daethai yn un o bregethwyr amlycaf ei enwad a chadwodd ei le i'r diwedd. Nid ymrwystrodd â diddordebau y tu allan i'w briodwaith. Bu ar lwyfan Undeb yr Annibynwyr, eithr ymgadwodd oddi wrth bob ymgiprys am anrhydeddau a geir ynglŷn âg amlygrwydd mewn cynadleddau a phwyllgorau. Ni fu a fynnai ychwaith â gweithgareddau dinesig a gwleidyddol, ar bregethu yr oedd ei holl fryd. Breiniwyd ef â chorff lluniaidd a chyda'i oslef ffroenol hamddenol swynai gynulleidfaoedd ar hyd a lled y wlad. Dichon mai cuddiad ei gryfder yn ei afael ar y bobl oedd ei bersonoliaeth hafaidd ddiymhongar. Ymhyfrydai yn ôl ei hamdden mewn llenydda ac ar un cyfnod brithid y Geninen ag ysgrifau o'i eiddo. Cyhoeddodd gasgliad ohonynt dan y teitl, Myfyrion ar fin afonydd (1904), yn enghraifft o'r brogarwch hwnnw a oedd mor nodweddiadol ohono.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.