LEWIS, JOHN DAVID (1859 - 1914), llyfryddwr, hanesydd lleol, a sefydlydd gwasg argraffu

Enw: John David Lewis
Dyddiad geni: 1859
Dyddiad marw: 1914
Priod: Hannah Lewis (née Lewis)
Plentyn: Edward Lewis
Plentyn: Rhys Lewis
Plentyn: David Lewis
Rhiant: Hannah Lewis
Rhiant: David Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llyfryddwr, hanesydd lleol, a sefydlydd gwasg argraffu
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: John Tysul Jones

Unig fab David a Hannah Lewis, Market Stores, Llandysul, a anwyd 22 Ionawr 1859, yn Llandysul, lle y bu fyw ar hyd ei oes. Addysgwyd ef yn Llandysul yn yr ysgolion canlynol: yr ysgol Frytanaidd, ysgol breifat a gedwid gan Herbert Jones ym Mhenwalcau (enw tŷ yn y pentref), ac yn ysgol ramadeg Gwilym Marles, ' Coffa yr hwn sydd felys gennyf ', a dyfynnu geiriau J. D. Lewis ei hunan. Hanoedd ar ochr ei dad o deulu parchus yn nyffryn Cerdin o'r un cyff â'r pregethwr enwog Christmas Evans ac ar ochr ei fam o deulu o amaethwyr cefnog ym mhlwyf Cilrhedyn. Ymhyfrydodd er yn ieuanc yn llên, hanes, a llên gwerin ei ardal, a chasglodd ynghyd gasgliad arbennig o lyfrau, pamffledi a chyfnodolion oedd â chysylltiad ganddynt, yn awduron neu destunau, â Llandysul a'r ardal. Y cariad cynnar hwn at lyfr a llên a barodd iddo ddechrau gwerthu rhai llyfrau, cylchgronau a phapurau Cymraeg ym masnachdy cyffredinol ei dad yn Market Stores, a phenderfynu yn 1892 ddechrau busnes argraffu a chyflogi bachgen ifanc o'r enw William John Jones o Lannerch-y-medd, Sir Fôn, yn argraffydd - gŵr a fu'n brif argraffydd y Mri J. D. Lewis a'i Feibion o 1892 hyd ei farw yn 1955. Symudwyd o Market Stores i adeilad presennol Gwasg Gomer yn 1894, a throi'r fusnes yn llwyr yn fusnes llyfrwerthwr ac argraffydd. Credir mai edmygedd J. D. Lewis o Joseph Harris ('Gomer') a barodd iddo alw ei wasg yn Wasg Gomer. Y llyfrau cyntaf a argraffwyd yng Ngwasg Gomer oedd Hanes Plwyf Llandyssul (W. J. Davies 1896), Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr (Daniel E. Jones 1899), a Hanes Plwyf Llangunllo (E. Cunllo Davies 1905). Argraffwyd yma hefyd y misolyn Cwrs y Byd (gol. E. Pan Jones), ac er y flwyddyn 1900 fisolyn Cymdeithas yr Undodiaid, sef Yr Ymofyn(n)ydd. Enillodd wobr yn eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caerfyrddin 1911, am ' Gasgliad o Faledi Cymru ' ac y mae'r casgliad yn awr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyd-weithiodd hefyd â'r diweddar John Davies (1860 - 1939) ar draethawd buddugol eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth 1916 ar 'Lenorion Sir Aberteifi, braslun o'u hanes a rhestr gyflawn o'u gweithiau cyhoeddedig rhwng 1600 a 1900' (NLW MS 8705D ).

Priododd â Hannah Lewis o Llandysul, a bu iddynt 4 o feibion.

Yr oedd yn Ynad Heddwch, yn un o sefydlwyr Cymdeithas Lyfryddol Cymru, ac yn aelod o'i Chyngor yn 1911. Bu farw 30 Medi 1914, a'i gladdu ym mynwent Eglwys y Bedyddwyr, Pen-y-bont, Landysul, lle y buasai'n ddiacon ac yn drysorydd ar ôl ei dad o'r flwyddyn 1899.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.