LLOYD, WILLIAM (1786 - 1852), cerddor

Enw: William Lloyd
Dyddiad geni: 1786
Dyddiad marw: 1852
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Rhos-goch, Llaniestyn, Llŷn, yn 1786; dywed traddodiad iddo fod yn borthmon. Yr oedd y teulu'n gerddorol, ac âi Lloyd ei hun o amgylch Llŷn gan gynnal dosbarthiadau cerdd ac arwain cymanfaoedd; hefyd rhoddai hyfforddiant i bobl a ymwelai ag ef yn ei gartref. Cyfansoddodd lawer o emyndonau, ond y dôn y cysylltir ef â hi amlaf yw'r dôn urddasol honno a adwaenir heddiw fel ' Meirionydd '. Ymddengys hon nid yn unig ym mhob llyfr emynau Cymraeg, ond hefyd mewn casgliadau fel Songs of Praise. Mewn llawysgrif a berthynai i Lloyd ei hun gelwir hi yn ' Berth ', ac o dan yr enw hwn yr ymddangosodd gyntaf mewn print, yn Caniadaeth Seion (1840) a gyhoeddwyd gan Richard Mills. Yn ôl ei garreg fedd ym mynwent eglwys Llaniestyn bu farw 7 Mehefin 1852, yn 66 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.