Yn 1884 daeth yn aelod o gorfforaeth Abertawe, a bu'n aelod a henadur o 1884 i 1910, ac yn faer y dref yn 1898-9. Bu'n gadeirydd y pwyllgor addysg am chwe blynedd. Bu'n bybyr iawn i geisio cael coleg prifysgol y de i Abertawe, ond Caerdydd a ddewiswyd. Yna llwyddodd i gael ysgol dechnegol i'w dref, a daeth yr ysgol hon wedyn yn goleg technegol. Bu Syr Richard, gyda chymorth Syr Isambard Owen (Bywg., 665) yn ceisio cael cydnabod y coleg technegol yn un o golegau Prifysgol Cymru, ond ni lwyddodd. Pan godwyd Comisiwn Brenhinol, o dan lywyddiaeth yr Arglwydd Haldane, i ymchwilio i gwestiwn addysg prifysgol yng Nghymru (1916-18), aeth Syr Richard ati ar unwaith i gael coleg prifysgol i Abertawe gyda phwyslais arbennig ar yr ochr dechnegol, a thystiodd dros y syniad yn bersonol ger bron y Comisiwn. Gymaint yr argraff a wnaed ar y Comisiwn, fel y cymeradwywyd codi'r cyfryw goleg. Sefydlwyd y coleg yn 1920, a phan osodwyd y garreg sylfaen gan y brenin Siôr V, galwodd ar Syr Richard ymlaen a'i wneud yn farchog yn rhinwedd ei ymdrechion maith dros addysg yn Abertawe. Heblaw sicrhau coleg prifysgol i'w dref, ef oedd yr un a lwyddodd i godi coleg hyfforddi athrawon ar ystad Glan-môr. Ymdrechodd yn ddyfal ac aberthodd ei amser a'i adnoddau yn helaeth er lles Abertawe a Chymru. Bu farw'n sydyn yn Llundain 11 Medi 1922, a'i gladdu ym mynwent Ystum Llwynarth, Abertawe.
Hugh David Jones, M.A., Abertawe