MILLS-ROBERTS, ROBERT HERBERT (1862 - 1935), llawfeddyg a chwaraewr pêl droed

Enw: Robert Herbert Mills-roberts
Dyddiad geni: 1862
Dyddiad marw: 1935
Rhiant: Robert Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llawfeddyg a chwaraewr pêl droed
Maes gweithgaredd: Meddygaeth; Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 5 Awst 1862 yn Ffestiniog, yn fab i Robert Roberts, Plasmeini, prif-oruchwyliwr chwareli Oakeley. Ar ôl bod yng ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, aeth Mills-Roberts i ysbyty S. Thomas, a gorffennodd ei hyfforddiant yn 1887. Gwnaed ef yn F.R.C.S. (Caeredin) yn 1893. Pan ddechreuodd rhyfel De Affrica yr oedd yn llawfeddyg yn ysbyty chwareli Dinorwig, ond aeth allan i ymuno ag A. W. Hughes yn yr Ysbyty Gymreig yn Ne Affrica. Enillodd gymeradwyaeth swyddogol am ei waith a gwnaed ef yn C.M.G. Gwasanaethodd hefyd yn rhyfel 1914-19. Mae'n bosibl, fodd bynnag, mai fel chwaraewr pêl droed y cofir amdano orau. Bu'n aelod o dîm ei ysbyty, tîm y Corinthians, a thîm Cymru. Bu'n geidwad y gôl yn nhîm Preston North End yn 1888-9, fel y bu Cymro arall, James Trainer. Cymerodd Mills-Roberts le Trainer yn nhim Preston yn y gornestau am gwpan Lloegr, ac yn ystod y gystadleuaeth honno ni ollyngodd y bêl i'r rhwyd unwaith. Bu farw 27 Tachwedd 1935.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.