Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MORGAN (neu YONG ), JOHN (bu f. 1504 ; Bywg. , 608), clerc y senedd ac esgob .

Nid oes sicrwydd am ei ach. Yn llsgr. Peniarth 131, 251 , olrheinir ei linach o Ruffudd Dwnn , Croesallgwn , Cydweli , ac y mae ateg i hyn yng ngyfeiriad Ieuan Deulwyn ( Bywg. , 388) ato fel un gyda ‘gwaed y Dwnn’ ( Gwaith I. Deulwyn , 50). Ond y mae'n fwy arferol ei gyfrif yn frawd i'r gŵr o gyfraith , Trahaearn Morgan , Modlyscwm , Cydweli , mab Morgan ap Jenkin ap Phylip , ŵyr Llywelyn ap Morgan o Dredegar ( Dwnn , Her. Visn. , 1, 21, H. T. Evans , Wales and the Wars of the Roses , 216-8). Gelwid ef yn ‘ Young ’ weithiau i'w wahaniaethu oddiwrth frawd arall o'r enw John ( Cat. MSS. in B.M. , 248). Os mab Morgan ap Jenkin oedd yr esgob , perthynai, drwy ei fam, Joan , ferch David Mathew , hyn . , Radyr , i rai o deuluoedd mwyaf amlwg y de — Herbert , Dafydd Gam , Wgon , a'r Dwnn — esboniad, efallai, ar gyfeiriad Ieuan Deulwyn ( Trans. Cymm. , 1941 , 122-3). Dylid sylwi nad oedd yn frawd i Morgan Cydweli , twrne cyffredinol Rhisiart III , a gymysgir yn aml gyda Thrahaern Morgan .

Addysgwyd John Morgan yn Rhydychen ac yr oedd yn ddoethur mewn cyfreithiau cyn dymchwel gobeithion y Lancastriaid yn Nhewksbri yn 1471 . Erys ei yrfa hyd at esgyniad Harri VII mewn tywyllwch. Arweiniodd distawrwydd y cofnodion swyddogol yn ei gylch, a'r dyrchafiad cyflym a ddaeth i'w ran ar ôl 1485 , i'r awgrym iddo fod mewn alltudiaeth gyda Harri Tudur ac yn ei wasanaeth fel clerc neu gaplan neu'r ddau ( A. F. Pollard , Bull. Inst. Hist. Research , XV, 156-8). O'r tu arall os oes coel ar hen fywgraffiad o Syr Rhys ap Thomas ( Bywg. , 790) nad yw'n gwbl ddibynadwy, rhaid oedd iddo fod yn weithgar yng Nghymru cyn 1485 . Ymddengys fod y bywgraffiad hwn ( Camb. Reg. , I, 49-144) yn awgrymu mai ef a'i frawd oedd yn gyfrifol am ennill Rhys ap Thomas drosodd at blaid Harri (ibid., 84-5, 88-90, 93, 96, 104-5). Yr anhawster yw fod y cyfeiriadau hyn i gyd yn sôn amdano fel esgob Tyddewi , swydd na ddaeth i'w ran hyd 1496 .

Dengys ei ddyrchafiadau cyflym ar ôl Bosworth ei fod yn un o bleidwyr mwyaf dibynadwy Harri . Ar 9 Hyd. 1485 gwnaethpwyd ef yn glerc y senedd , yn Nhach. ceir ef yn dderbynnydd deisebau , ac yn ddiweddarach daeth yn feistr yn y Siawnsri . Ymhlith y dyrchafiadau eglwysig a gafodd yr oedd eglwys Hanslape , swydd Buckingham , deoniaeth Windsor , a deoniaeth St. Mair , Caerlyr , y cyflwynwyd ef iddynt o un i un ar 6 Hyd., 18 Hyd. a Rhag. 1485 . Yr oedd yn archddiacon Caerfyrddin o Orff. 1488 i Chwef. 1494 , prebendari Rugmere yn St. Paul yn 1493 , a rheithor Great Haseley , swydd Rhydychen .

Pan ddaeth yn esgob Tyddewi yn 1496 rhoes i fyny ei holl swyddi eraill, eglwysig a bydol. Yn ystod ei esgobaeth (cadwyd ei gofrestr dros ran o'r cyfnod), cododd nifer cantorion yr eglwys gadeiriol o 4 i 6 a neilltuodd eglwysi Llanwnnen , Silian , a Llan-y-cefn at eu cynhaliaeth. Adeiladodd yr orsedd esgobol yn y côr yn Nhyddewi , ac yn ei ewyllys, a ddyddiwyd ar 25 Ebr. ac a brofwyd 29 Mai 1504 , trefnodd ar gyfer codi capel dros ei fedd yn yr eglwys gadeiriol. Ni chodwyd y capel, ond y mae beddfaen gerfiedig yr esgob yn aros.

Ffynonellau:

  • At y cyfeiriadau yng nghorff yr erthygl ychwaneger Oxford Dictionary of National Biography ,
  • Llawysgrif Harley yn yr Amgueddfa Brydeinig 1249;
  • The Episcopal Registers of the Diocese of St. David's, 1397–1518 . Cymmrodorion Record Series 6, 1917–20 , ii, 533, 676, 713-61, iii, 123-5;
  • Menevia Sacra. Arch. Camb. , Supplement, 1927 83, 209;
  • Calendar of Patent Rolls . Record Publication, 1891 ff , 1485-94 (16, 79, 457), 1494-1509 (71, 78, 85);
  • Jones a Freeman , The History and Antiquities of St. David's , 1856 , 88, 101, 108, 308;
  • Archaeologia Cambrensis , 1919 , 393-458.

Awdur:

Syr Glanmor Williams, M.A., Abertawe

Atodiadau a chywiriadau:

MORGAN (neu YONG ), JOHN (bu f. 1504 ), esgob ;

mab Morgan ap Siancyn , o deulu Morgan , o Fachen a Thredegar , sir Fynwy . Addysgwyd ef yn Rhydychen a dyfod yn ddoethur yn y cyfreithiau . Rhoddir y cyfenw Yong arno weithiau er mwyn gwahaniaethu rhyngddo a brawd iddo o'r enw John . Disgrifir ef fel un o gynghorwyr Syr Rhys ap Thomas [q.v.] , ac ymddengys iddo ef a'i frawd Trahaiarn Morgan o Gydweli , twrnai cyffredinol Rhisiart III , ddarbwyllo Syr Rhys i gefnogi Harri eu cyfyrder. Pan ddaeth hwnnw i'r orsedd yn Harri VII , rhoddodd i John Morgan nifer o swyddi eglwysig, yn eu plith deoniaethau Windsor a Leicester ac archddiaconiaeth Caerfyrddin . Yn 1496 codwyd John Morgan yn esgob Tyddewi ; bu f. yn y Priordy yng Nghaerfyrddin , tua diwedd Ebrill neu ddechrau Mai, 1504 . Claddwyd ef yn eglwys gadeiriol Tyddewi mewn bedd o garreg nadd.

Ffynonellau:

  • Oxford Dictionary of National Biography

Awdur:

Thomas Iorwerth Ellis, M.A., (1899-1970), Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

MORGAN , (neu YONG ), JOHN ( Bywg. , 608; Bywg. 2, 135)

Ceir ei ach yn llsgr. Peniarth 131 , t. 255; person gwahanol yw'r un y rhoddir ei ach ar d. 251 a Bywg. 2 . Mam yr esgob a hanai o'r Dwniaid .

Awdur:

Peter Clement Bartrum, Berkhamsted, Herts

Blwyddyn Cyhoeddi: 1970