MORGAN, OWEN ('Morien '; 1836? - 1921), newyddiadurwr ac ysgrifennwr ar bynciau amrywiol

Enw: Owen Morgan
Ffugenw: Morien
Dyddiad geni: 1836?
Dyddiad marw: 1921
Rhiant: Margaret Morgan
Rhiant: Thomas T. Morgan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: newyddiadurwr ac ysgrifennwr ar bynciau amrywiol
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Bu farw 16 Rhagfyr 1921 (Western Mail), ac ar yr achlysur hwnnw dywedwyd ei fod dros 80 oed a'i fod yn fab i Thomas T. Morgan a'i wraig, Margaret, o Ben-y-graig, Rhondda. Cuddiasai ei oedran yn gyson. Yng nghopi'r esgob o gofrestr plwyf Ystradyfodwg cofnodir bedyddio Owen, mab Thomas a Margaret Morgan o Dinas [Rhondda], 23 Chwefror 1836, ac ymddengys yn weddol sicr mai at wrthrych yr ysgrif hon y cyfeirir, oherwydd y mae Dinas yn ffinio ar Ben-y-graig. Honnai fod cysylltiad rhyngddo â theulu Morgan o Lantarnam, ac â theulu Thomas o Lanmihangel, Sir Forgannwg (gweler tan EDWIN, TEULU). Fel newyddiadurwr i'r Western Mail y rhoddodd ei wasanaeth yn bennaf, o 1870 i 1899, pan ymddiswyddodd. Yn ei lyfrau, megis Pabell Dovydd (ar Dderwyddiaeth), Kimmerian Discoveries (ar wreiddiau Caldeaidd y Kymry), A Guide to the Gorsedd, ac yn y blaen, adlewyrchir dylanwad ffugiadau Iolo Morganwg, ac yn arbennig gysylltiad agos Morien ag Evan Davies (1801 - 1888), Myfyr Morganwg. Ar farwolaeth Myfyr Morganwg, cymerodd Morien y teitl archdderwydd ' fel olynydd iddo. Y mae ei History of Pontypridd and the Rhondda Valleys (Pontypridd, 1903), yn gymysgwch rhyfedd o 'dderwyddiaeth', chwedloniaeth, daearyddiaeth a hanes lleol, a bywgraffiadau, ond y mae iddo beth gwerth, oherwydd y wybodaeth a geir ynddo am ddatblygiad cymoedd y de yn y 19eg ganrif.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.