MORRIS, DAVID (1630 - 1703), offeiriad Catholig a cham-dyst

Enw: David Morris
Dyddiad geni: 1630
Dyddiad marw: 1703
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad Catholig a cham-dyst
Maes gweithgaredd: Crefydd; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Martin Cleary

Mab Walter Morris o Lantilio, sir Fynwy, ac Elizabeth Woodward o sir Gaerwrangon. Yr oedd ganddo frawd a fu farw yng ngholeg S. Omer, ac yr oedd un o'i chwiorydd yn lleian yn Ghent. Bu'n byw yng ngwesty'r myfyrwyr Cymreig yn Ghent am dair blynedd, ac ymaelododd yn y Coleg Seisnig yn Rhufain, 16 Hydref 1648, yr un diwrnod â'r Tad William Morgan, S.J.. Urddwyd ef yn offeiriad yn S. John Lateran, 4 Ebrill 1654, ac aeth i Loegr, 1 Mai 1655. Ychydig a wyddys am ei yrfa yn ystod yr ugain mlynedd nesaf. Yr oedd yn aelod o Gabidwl yr offeiriaid seciwlar yn 1677, ac, er gwaethaf ei ymdrechion yn eu herbyn, parhâi yn aelod yn 1684, pan ddisgrifid ef fel archddiacon siroedd Northampton, Huntingdon a Chaergrawnt. Yn 1680, ar adeg y Cynllwyn Pabaidd, daethpwyd â Morris o Fflandrys, drwy gyfrwng Israel Tonge, cyd hysbyswr Titus Oates, i gadarnhau'r cyhuddiadau a dducpwyd yn erbyn y Jeswitiaid gan offeiriad Catholig arall, y Dr. John Sergeant. Daethpwyd i'w adnabod fel fidus Achates Sergeant. Dug y ddau gam dystiolaeth yn erbyn y Jeswitiaid o flaen y Cyngor Cyfrin, 18 Chwefror1680, a gorchmynnodd Tŷ'r Cyffredin gyhoeddi eu tystiolaeth, 26 Mawrth 1681. Rhwng 1680 a 1685 derbyniodd Morris swm o £900 o gronfa'r gwasanaeth cyfrin am ei wasanaeth. Dywaid Hay ' Byddai'n ddiddorol darganfod beth oedd Morris yn ei wneud yn Lloegr o 1680 hyd 1685, neu beth a gyflawnasai cyn hynny i ennill y pensiwn hwn o dros £200 y flwyddyn '. Daw i'r casgliad fod â wnelai Sergeant a Morris â chynllwynion Titus Oates a Shaftesbury o'r cychwyn. Yn wir, derbyniodd Sergeant a Morris fwy o arian nag Oates a Tonge, a gyfrifid fel dyfeiswyr y cynllwyn Pabaidd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.