MORRIS, WILLIAM (fl. 1829-73?), cynorthwywr i'r Comisiynwyr Addysg yng Nghymru, 1846-7, awduron Llyfrau Gleision enwog 1847

Enw: William Morris
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cynorthwywr i'r Comisiynwyr Addysg yng Nghymru, 1846-7, awduron Llyfrau Gleision enwog 1847
Maes gweithgaredd: Addysg; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Thomas Richards

Er pob ymdrech, methwyd a chael allan i'r dim pa bryd y ganwyd ef na pha bryd y bu farw. Yn ôl Wilkins, bu'n feistr ar ysgolion preifat yn ardal Merthyr Tudful yng Nghefn-coed-y-cymer a Chae-pant-tywyll, a chanddo atgofion difyr am ei brofiadau. Geilw Ieuan Gwynedd (Evan Jones) ef yn 'Ddissenter', ond nid oedd yn ' Ddissenter ' yn ystyr Ieuan i'r gair; geilw un arall ef yn Fethodist, gan gymryd yn ganiataol mai Weslead ydoedd. Mewn gwirionedd, Methodist Calfinaidd gweithgar ydoedd, yn enwedig gyda'r ysgolion Sul. Bu'n gohebu gydag Ebenezer Richard o Dregaron yn 1829 ynghylch yr ysgolion hyn, ac yn 1830 ynghylch y cyfarfodydd dau-fisol lle y cyfarfyddai cynrychiolwyr i edrych i mewn i stad yr achos a chateceisio'r gwahanol ddosbarthiadau. Cyn hyn, yn 1826, cyhoeddasai Cyfarwyddwr i Athrawon Ysgolion Sabothol, 16 td, ac iddo ef (yng nghwmni un arall) y daeth y drychfeddwl yn 1827 i ddod a chylchgrawn misol allan er lles yr ysgolion. Yr Athraw oedd hwn, a bu'r ddau yn ei gyd-olygu hyd nes, yn 1829, ei gymryd drosodd gan William Rowlands (1807 - 1866). Y mae'n hollol glir oddi wrth dudalennau'r Athraw, mai Morris oedd ysgrifennydd y cwrdd dau-fisol a goruchwyliwr y llyfrfa; y mae'n amlwg hefyd fod Rowlands wedi gweithredu fel cynorthwywr iddo, tua 1824-5, yn ysgol y Cefn. Yn ôl Directory Robson am 1840 yr oedd Morris yn gynrychiolydd lleol i'r Anghydffurfwyr Protestannaidd yn ardal Merthyr, hy, yn ohebydd lleol i'r Dissenting Deputies yn Llundain. Tybed a wyddai'r Comisiynydd Lingen, Eglwyswr rhonc newydd ddod o Rydychen, fod ei gynorthwywr yn Anghydffurfiwr mor drwm, yn Galfinydd mor selog? Weithiau teimlir fod Morris yn tueddu i anwybyddu ffeithiau er mwyn ymddangos yn amhleidiol. Ac yntau y fath Fethodus ac yn dod o'r ardal, cwta iawn yw ei werthfawr ogiad o ysgolion Sul Methodistaidd Merthyr a Dowlais. Y mae'n wir fod Lingen wedi dweud yn blaen na fedrai ef a'i gynorthwywyr ymweled â phob ysgol, fod yn rhaid dewis. Ond gadawodd Morris Gapel Hermon allan yn gyfan gwbl, gydag ysgol Sul dros 600. Ymwelodd â'i ysgol ei hun yng Nghaepant-tywyll, a gadewir ni i ddyfalu mai ysgol gan y Methodistiaid ydoedd am fod y Rhodd Mam yn cael ei arfer yno. Beth bynnag a ddywedir, erys yn ffaith mai Morris oedd y gorau o'r cynorthwywyr, fel y prawf yn enwedig ei adroddiadau am ysgolion Sir Gaerfyrddin - llawn, siarp ar brydiau, amhleidiol bob amser.

Daeth allan o beiriau 1846-7 a'r trafodaethau â Lingen heb amharu dim ar ei anghydffurfiaeth. Yn Hanes Methodistiaeth Cymru, iii, 82 (1856) cyfeirir ato fel y blaenor adnabyddus o Bant-tywyll, ei sel a'i ffyddlondeb gyda phob achos yn gydnabyddedig gan bawb. Ni rydd Wilkins unrhyw ddyddiad i'r atgofion a glywodd gan Morris. Nid oes air o farwgoffa iddo ar dudalennau'r Drysorfa. Yr oedd yn fyw yn 1868, yn ôl Directory Slater; ac os oes coel i'w roddi ar gyfeiriad ato yng Nghofiant Dr Rowlands, yr oedd yn fyw yn 1873.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.