Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MUTTON , Syr PETER ( 1565 - 1637 ), barnwr a gwleidyddwr ;

bu f. yn Llannerch , 14 Tach 1637 . Yr oedd ei dad yn dir feddiannwr gweddol gefnog yn nyffryn Clwyd y buasai ei deulu yn amlwg ym mwrdeisdref Rhuddlan am ddwy ganrif, a daeth Peter neu Piers Mutton ei hun yn un o gyfreithwyr Cymreig mwyaf amlwg y 17eg g. Addysgwyd ef yn S. Alban Hall , Rhydychen , a Lincoln's Inn , a derbyniwyd ef yn fargyfreithiwr ym mis Meh 1594 . Trwy gydol ei yrfa chwaraeodd ran bwysig ym mywyd Lincoln's Inn . Cafodd ei apwyntio'n ddarllenydd yno am dymor Hyd. 1625 a bu'n geidwad y Llyfr Du . Fel cyfreithiwr ac yn ddiweddarach fel barnwr , cadwodd ei gysylltiad â Chymru . Apwyntiwyd ef yn glerc y goron yn Ninbych a Threfaldwyn ( 1605 ) ac yn dwrne i'r brenin yng Nghymru a'r Gororau cyn 1609 . Urddwyd ef yn farchog yn Whitehall , 5 Meh 1622 , ar ei benodiad i fod yn brif ustus Môn . Yr oedd eisoes yn ŵr o ddylanwad yng ngogledd Cymru . Dug ei ail briodas, ag Ellen , chwaer John Williams , esgob Lincoln ( Bywg. , 982) , ef yn ddiamau i gysylltiad agosach â materion cenedlaethol. Yn ogystal a bod yn aelod o'r Cyngor dros Gymru , etholwyd ef yn aelod seneddol dros sir Ddinbych ( 1604 ) a sir Gaernarfon ( 1624 ). Ni wyddys am unrhyw hanesion arbennig ynglŷn â'i yrfa wleidyddol, ac eithrio un stori (a ailadroddir yn aml), am araith a wnaeth yn y Tŷ yn cynnwys gwrthddywediad ysmala cofiadwy. Hwyrach mai ail iaith oedd Saesneg iddo, oherwydd, er bod teulu ei dad yn wreiddiol o sir Amwythig , merch y bardd a llenor Cymraeg , Gruffydd ap Ievan o Lannerch ( Bywg. , 297) , sir Ddinbych , oedd ei fam. Enillodd ei Gymreictod enwogrwydd damweiniol iddo fel ysgrifennwr un o'r llythyron personol cyntaf yn yr iaith Gymraeg sydd wedi goroesi . Ynddo rhydd esboniad i'w fam am ei briodas fyrbwyll â geneth amddifad, gyfoethog. Perthyn rhyw gymaint o bwysigrwydd hanesyddol i'r llythyr hwn am iddo gael ei ysgrifennu mewn cyfnod pan oedd yr uchelwyr Cymreig yn cael eu Seisnigeiddio. Drwy ewyllys ei ewythr, Edward Griffith o Lannerch , a fu f. 1601 , etifeddodd Mutton y rhan fwyaf o'r ystad honno, rhan a gynhwysai lyfrgell werthfawr. Drwy briodas ei unig ferch, Anne , a Robert Davies ( 1616 - 1666 ) , trosglwyddwyd yr ystad i deulu Davies , Gwysaney , sir y Fflint , a daeth y llawysgrifau a'r llyfrau yn gnewyllyn y casgliad pwysig a gysylltir ag enw Robert Davies o Lannerch ( 1658 - 1710 ) ; gw. teulu Davies-Cooke ( Bywg. , 150-2)

Ffynonellau:

  • T. A. Glenn , The family of Griffith of Garn and Plasnewydd in the County of Denbigh, as registered in the College of Arms from the beginning of the XIth Century , 1934 , 103;
  • W. R. Williams , The history of the Great Sessions in Wales, 1542-1830 together with the lives of the Welsh judges, and annotated lists of the chamberlains and chancellors, attorney generals, and prothonotaries of the four circuits of Chester and Wales , Brecknock, 1899 , 93;
  • W. R. Williams , The History of the Parliamentary Representation of Wales , 1895 , 66;
  • H. D. Emanuel , ‘The Gwysaney Manuscripts’ yn Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru , vii, 326 ff;
  • D. Jenkins , 'Llythyr Syr Peter Mutton' yn Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru , v, 220-1;
  • Calendar of State Papers, Domestic Series , Record Publication , 1603-1610 , 231; 353;
  • B.M. Llawysgrif Harleian Manuscript yn yr Amgueddfa Brydeinig. 1971;
  • Llawysgrifau Gwysaney yn Ll.G.C., ac yn U.C.N.W., Bangor

Awdur:

Gwilym Arthur Usher, M.A., (1915-78), Bangor

Blwyddyn Cyhoeddi: 1970