NANNEY, DAVID ELLIS (1759 - 1819), sgweier y Gwynfryn a bargyfreithiwr

Enw: David Ellis Nanney
Dyddiad geni: 1759
Dyddiad marw: 1819
Rhiant: Catherine Ellis (née Nanney)
Rhiant: Richard Ellis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sgweier y Gwynfryn a bargyfreithiwr
Maes gweithgaredd: Perchnogaeth Tir; Cyfraith; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Richards

Ganwyd yn 1759, mab i Richard Ellis, ficer Clynnog, aelod o deulu Bodychen a gartrefai yn y Gwynfryn ger Llanystumdwy ar stad a ddaeth i ran un o'i hynafiaid drwy briodas lwcus yn 1667; ei fam oedd Catherine, merch yr efengylwr Richard Nanney, a oedd hefyd yn ficer Clynnog, bu farw 1767. Ymaelododd David Ellis yng ngholeg Pembroke, Rhydychen, yn 1778, graddio'n B.A. yn 1782; yn yr un flwyddyn derbyniwyd ef i'r Middle Temple, a'i alw i'r bar yn 1787; yn ddiweddarach penodwyd ef yn dwrne cyffredinol i Ogledd Cymru o dan hen drefn y Sesiwn Fawr. Tyfodd yn ŵr hyfedr yn y gyfraith, gan gyfaddasu at ei chyfrinion synnwyr cyffredin iachus, ac nid oedd gyfreithiwr uwch ei air nag ef yng ngogledd Cymru ym mlynyddoedd cyntaf y 19 ganrif. Gofynnid am ei farn yn aml, tu allan i'r llysoedd, ar broblemau cymhleth a flinai rai o'r prif deuluoedd; a phan ddeuai'r dyfarniad, teimlid ar unwaith ei fod yn waith meistr, clir, cryno, pob gair yn ei le, dim gair yn ormod. Enghreifftiau da o'i feddwl clir, ei eglurder pendant, oedd y dull y gwastataodd anawsterau'n codi o weithred briodas yn sir Fôn (Henllys 217), ei farn na ellid gafael mewn nwyddau er mwyn cael rhent os oeddynt eisoes wedi eu gwerthu'n onest heb feddwl drwg (Lligwy 4A), y traethawd bychan ar wir ystyr prydles o dan ba amgylchiadau y gellid ei thorri, gan nodi'r gwahaniaeth rhwng prydles dros nifer o flynyddoedd a phrydles dros nifer o fywydau (Penrhyn, 1848). Daeth yn sgweier y Gwynfryn ar ôl marw'i dad yn 1805; yn 1812 etifeddodd diroedd y Nanneiod ym Machwen ac Elernion drwy ewyllys hen lanc o ewythr ar yr amod ei fod yn rhoddi Nanney ar ôl ei enw. Bu farw 5 Mehefin 1819, heb blant, a gadawodd ei stad i'w nai, Owen Jones o Fryn-hir, ar yr amod ei fod yntau yn dwyn yr enw Ellis-Nanney. Owen Jones oedd tad Syr H. J. Ellis-Nanney, gwrthwynebydd Mr. Lloyd George yn etholiad bwrdeistrefi Caernarfon yn 1890.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.