Bu HOWEL AP JENKIN AB IORWERTH farw o'r pla yn 1494. Dilynwyd ef gan ei fab, HUMPHREY (bu f. 1545); ei fam ef oedd Mary, ferch Syr Roger Kynaston, cwnstabl castell Harlech. Gwraig Humphrey oedd Annes, ferch Syr Richard Herbert, Trefaldwyn, a'i aer JOHN WYNN AB HUMPHREY, a briododd ferch Rhys Vaughan, Corsygedol, ac a ddilynwyd gan ei fab HUMPHREY WYNN (yn fyw yn 1571). Anfonwyd i Humphrey Wynn gywydd gan Siôn Phylip yn gofyn iddo roddi telyn rawn i Siôn ap Richard, Pennal. Priododd Humphrey â Jane (Hughes, Maes y Pandy) a gadael dwy ferch yn gyd-aeresau — (1) ELIZABETH (bu f. 17 Mai 1642), a briododd â Syr JAMES PRYSE Gogerddan (bu yntau f. yn 1642), a (2) CATHERINE, a ddaeth yn wraig John Owen ap John ap Lewis ab Owen, Llwyn, Dolgellau. Canodd Siôn Cain gywydd i ‘Syr Siams Prys marchog, o ynys y maengwyn,’ yn 1633 (Pen. MS. 116); ceir hefyd gywydd gan Richard Phylip ‘I Syr Siams Prys o ynis y maengwyn i ofyn kledde a dagar dros Sion Huwes o faes y pandy’ (gw. yr erthygl ar ‘Phylipiaid Ardudwy’ yn Cymmr., xlii). Bu Syr James yn siryf Meirionnydd yn 1606 a 1619.
Aer Elizabeth a Syr James Pryse oedd eu merch BRIDGET a briododd (1) â ROBERT CORBET, trydydd mab Syr Vincent Corbet, Moreton Corbet, sir Amwythig; a (2) â Syr Walter Lloyd [q.v.], Llanfair Clydogau, sir Aberteifi. Dilynwyd Bridget a Robert Corbet gan eu mab VINCENT CORBET (bu f. 1723), siryf Meirionnydd yn 1682. Priododd ef ag Ann, ferch William Vaughan [q.v.], Corsygedol a gadawodd bedair merch yn gyd-aeresau — (1) ANN, a briododd ag ATHELSTAN OWEN, Rhiwsaeson, sir Drefaldwyn — trwyddynt hwy y cariwyd llinach Ynysmaengwyn ymlaen; (2) Jane; (3) Elizabeth; a (4) Rachel. Ni bu i Corbet Owen a Richard Owen, meibion Ann ac Athelstan Owen, etifeddion, ond dygwyd y llinach ymlaen gan eu chwaer ANN OWEN (bu f. 1767) a'i gŵr, PRYSE MAURICE (1699-1799), Lloran Ucha, etc., a fabwysiadodd y cyfenw CORBET, megis y gwnaeth eraill a'i dilynodd — yr olaf oedd ATHELSTAN JOHN SODEN CORBET (g. 1850), siryf Meirionnydd yn 1875.
Prynwyd stad Ynysmaengwyn yn 1874 gan John Corbett, Impney, aelod seneddol dros Droitwich. Nid oedd, fodd bynnag, unrhyw berthynas rhwng y Corbett hwn a'r lleill. Am nodyn ar y tŷ gw. Arch. Camb., xcvii, 230.
Yr oedd cysylltiad rhwng Ynysmaengwyn â Dolau Gwyn, tŷ ar ochr y ffordd sydd yn arwain o Dywyn i Abergynolwyn. Adeiladwyd Dolau Gwyn cyn 1620 gan LEWIS GWYN (bu f. 1630), siryf Meirionnydd yn 1617. Ail fab oedd Lewis Gwyn, Dolau Gwyn, i John Wynn ap Humphrey, Ynysmaengwyn (uchod); yr oedd felly'n frawd i'r Humphrey Wynn y canodd Siôn Phylip gywydd iddo. Bu Lewis Gwyn yn briod ddwywaith — (1) â Jane, ferch Hugh Nanney, Nannau, a chael Gwen (isod) ac Elizabeth, a briododd Edward (?) Nanney, Nannau, a (2) ag Annes, ferch Hugh Gwyn ab Evan, Llwyn Griffri, Llanddwywe, a chael ohoni bedair merch — daeth un o'r rhain yn gyd-aeres maes o law.
Yr oedd Lewis Gwyn yn noddwr beirdd. Ysgrifennodd Richard Phylip ddau gywydd i ryw lestr diod (‘Fiol frech” — ‘ffiol oddfyn’) a oedd yn Nolau Gwyn, cywydd ‘i ofyn milgi llwyd gan John Vaughan o Gaergai dros Lewis Gwyn o'r Dolegwyn’; marwnadodd Richard Phylip dros Lewis Gwyn a thros ei ferch Gwen, gwraig gyntaf Lewis Lloyd, Rhiwedog. Bu hefyd ‘ymryson’ ynghylch Dolau Gwyn rhwng Richard Phylip, Gruffydd Hafren, Ieuan Tew, a Siôn Phylip. Canodd Gruffydd Phylip, mab Siôn Phylip, farwnad GRUFFYDD NANNEY, Dolau Gwyn. Mab oedd ef i Hugh Nanney (1588-1647), Nannau. Bu'n siryf Meirionnydd yn 1642. Priododd ef ag ANN GWYN, cyd-aeres Lewis Gwyn.
Y mae'r llythrennau a'r rhifau L.G.A.G. 1620 a G.N.A.N. 1656 i'w gweld eto yn Nolau Gwyn; cyfeirio y mae'r cyntaf at Lewis Gwyn a'i wraig Ann (Gwyn) a'r ail at Gruffydd Nanney ac Ann (Nanney).
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth