Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



OWEN, GWILYM (1880-1940; D.W.B., 1145), gwyddonydd ac athro anianeg yng ngholeg y brifysgol yn Aberystwyth; g. 19 Gorff. 1880 yn Ninbych, yn fab i William Owen, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Lerpwl ac wedyn yng Nghonwy. Cafodd ei addysg fore yn ysgolion elfennol Bodfari a Henllan, a bu am 5 mlynedd yn ysgol ramadeg Rhuthun. Graddiodd ym mhrifysgol Lerpwl gyda chlod uchel yn 1901 ac enillodd ysgoloriaeth yr ‘1851 Exhibition’ a fu'n foddion iddo allu mynd i goleg Crist, Caergrawnt, ac i wneud gwaith ymchwil yn labordy Cavendish dan Syr J. J. Thomson. Ar derfyn ei yrfa yng Nghaergrawnt yn 1905 apwyntiwyd ef yn ddarlithydd yn adran anianeg prifysgol Lerpwl lle y bu hyd 1913, pryd yr etholwyd ef i gadair athro anianeg yn Auckland, New Zealand. Bu gyda lluoedd arfog New Zealand yn y rhyfel mawr cyntaf am 4 blynedd. Yn 1919 fe'i apwyntiwyd yn athro anianeg yng ngholeg y brifysgol yn Aberystwyth. Etholwyd ef yn is-brifathro yn 1932 ac ar ôl ymneilltuad Syr Henry Stuart Jones (Bywg., 438) yn gynnar yn 1934, bu am flwyddyn yn brifathro gweithredol ac yna yn is-brifathro drachefn hyd 1936. Ym Medi y flwyddyn honno trawyd ef yn sydyn gan afiechyd poenus, a bu raid iddo ymadael yn llwyr â'i waith yn y coleg. Yng Nghaergrawnt, ac wedi hynny yn Lerpwl, gwnaeth amryw ymchwiliadau pwysig ar ffenomenâu ynglŷn â'r electron, ond fel darlithydd clir a deniadol y cofir yn bennaf amdano. Meddai'r ddawn i drosglwyddo ffeithiau anodd mewn anianeg fel y gallai dyn heb fawr wybodaeth am anianeg eu deall. Drwy ei fedr fel darlithydd medrai wneud pwnc dyrus yn hawdd ei ddeall gan ei ddisgyblion, oblegid cymerai drafferth neilltuol i baratoi ei ddarlithiau i'w ddosbarthiadau ac i ddangos iddynt arbrofion i esbonio'r testun dan sylw. Am ei fod yn nodedig fel darlithydd clir a dengar, gelwid arno'n fynych i annerch cynulliadau oddi allan i'r coleg a gwnai hynny fel rheol yn Gymraeg. Ysgrifennai hefyd Gymraeg graenus, a chyhoeddodd y llyfrau canlynol: Athroniaeth Pethau Cyffredin (1907); Cwrr y Llen (1914); Rhyfeddodau'r Cread (1933); Y Mawr a'r Bach (1936), ac ysgrif (gyda'r Prifathro Owen Prys, Bywg., 759) ar y testun ‘God and the Universe’. Cyhoeddodd hefyd nifer helaeth o ysgrifau yn y prif gyfnodolion Cymraeg ar bynciau gwyddonol. Trwy ei gyfraniadau lledodd orwelion yr iaith Gymraeg a llenyddiaeth Gymraeg, a dangosodd fod yr iaith, yn llaw'r cyfarwydd, yn abl i ymateb i holl ofynion gwyddoniaeth. Rhan o'i gyfrinach a'i lwyddiant arbennig fel athro oedd ei fedr i ddeall anawsterau a mesur adnoddau ei wrandawyr, ac yna ymboeni'n amyneddgar i'w dwyn hwythau i'w ddilyn yn ei ddehongliad o'i bwnc. Yn llysoedd a phwyllgorau'r brifysgol, y tu allan i'w goleg ei hun, enillodd barch mawr am ei anhunanoldeb, ei symlder, ei bwyll a'i farn aeddfed. Perchid ef gan ei Gyfundeb a'i eglwys, a bu'n un o'r lleygwyr dysgedig mwyaf eu parch yng nghynadleddau crefyddol ei wlad. Bu f. 9 Tach. 1940 a chladdwyd ef ym mynwent Toxteth, Lerpwl.

Llyfryddiaeth:

  • Y Faner, 16 Tach. 1940;
  • Proc. Phys. Soc., 1940, Vol. 54;
  • gwybodaeth bersonol.

Awdur:

Edwin Augustine Owen, D.Sc., (1887-1973), Bangor