Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



PARRY, MORRIS (fl. 1661-1683; D.W.B., 1145), clerigwr a bardd. Ychydig a wyddys am ei fywyd cynnar. Apwyntiwyd ef yn rheithor Llanelian yn sir Ddinbych o fewn esgobaeth Llanelwy, 11 Mawrth 1660/1, a gwasanaethodd yno am tua thair blynedd ar hugain. Yr oedd yn un o feirdd ail hanner y 17eg ganrif a barhaodd i ganu yn yr hen draddodiad o foli'r teuluoedd boneddigaidd. Ceir enghreifftiau o'i waith yn Mostyn MSS. 96 a 161, Wynnstay MS. 6, N.L.W. MS. 11993, a B.M. Add. MSS. 14891, 14892, 14975 a 14994. Ceir marwnad iddo gan Siôn Dafydd o Benllyn yn Mostyn MS. 96. Ymddengys iddo fod yn berchen copi llawysgrif o waith Syr John Wynn o Wydir, ‘The History of the Gwydir Family’, tua 1674. Claddwyd ef yn Llanelian 26 Medi 1683.

Llyfryddiaeth:

  • T. Parry, H. Llen. Gymr.;
  • Sir John Wynn, Hist. Gwydir Family, 1927, (gol. J. Ballinger);
  • Cofrestri Esgobaeth Llanelwy yn Ll.G.C.

Awdur:

Griffith Milwyn Griffiths, M.A., Aberystwyth