PROTHERO, THOMAS (1780 - 1853), cyfreithiwr, perchennog glofeydd, a dinesydd dylanwadol yng Nghasnewydd, Mynwy

Enw: Thomas Prothero
Dyddiad geni: 1780
Dyddiad marw: 1853
Rhiant: Thomas Prothero
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfreithiwr, perchennog glofeydd, a dinesydd dylanwadol yng Nghasnewydd, Mynwy
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Cyfraith; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Watkin William Price

mab Thomas Prothero, Brynbuga, atwrnai, clerc yr heddwch yn sir Fynwy, cofiadur Brynbuga, a stiward Dug Beaufort. Tybir mai plentyn siawns ydoedd, a bod cadarnhâd i hyn, oherwydd yng nghyfrifiad 1851 dywedodd iddo gael ei eni yn sir Fynwy, heb enwi'r plwyf. Yn gynnar yn ei oes daeth yn atwrnai yng Nghasnewydd a'i dderbyn yn ddinesydd 9 Hydref 1807; dridiau'n ddiweddarach fe'i penodwyd yn glerc corfforaeth gyfyngedig Casnewydd. At hyn daeth yn oruchwyliwr i Syr Charles Morgan, Tredegyr, perchennog y rhan fwyaf o'r tir yr adeiladwyd Casnewydd arno, a hefyd i ddau berchen tir arall. Trwy hyn cafodd gyfle i ychwanegu at ei waith ei hun fel cyfreithiwr trwy drosglwyddiadau tiroedd, a thrwy ychwanegu cymalau, i'w fantais ei hun, ar adeg pryd y datblygai blaenau Mynwy eu hadnoddau mewn glo a haearn, gyda Chasnewydd, yn borthladd naturiol iddynt.

Gyda'i gydweithiwr, Syr Thomas Phillips, a'i dilynodd fel clerc y dref, cafodd Prothero 'r gwaith cyfreithiol ynglyn â hyrwyddo mesurau er gwella'r dref, ei strydoedd a'i ffyrdd, ei phorthladd a'i harbwr. Daeth felly'n gefnog iawn, ac ni faliai fawr pa fodd y casglai gyfoeth. Fe'i disgrifir fel dyn ymladdgar a thrahaus, ac fe'i cyhuddwyd o godi gormod a gweithredu'n annheg, gan ei brif elyn, John Frost, y siartydd, a fu unwaith yn gynghorydd tref, yn ynad heddwch, ac yn faer. Cyhoeddodd Frost nifer o'r llythyrau hyn, a pheri mawr foddhad i'r bobl hynny yng Nghasnewydd a ddioddefasai dan Prothero. Aeth yn fancer, ac yr oedd yn drysorydd elusen Caerllion-ar-Wysg, y perthynai iddi eiddo lawer mewn mwynau: fel masnachwr llechi a choed darparodd y defnyddiau angenrheidiol ar gyfer yr elusen honno. Gyda Thomas Powell yr oedd yn un o'r allforwyr glo pwysicaf yng Nghasnewydd, ac fe'u cyhuddwyd o geisio ffurfio monopoli yn y maes hwnnw. Ar un adeg yr oedd yn is-siryf, a llwyddodd i gael ei bobl ei hun ar yr uchel reithgor er mwyn sicrhau dedfryd yn erbyn John Frost.

Trigai yn ' The Friars ' i ddechrau, ac yna ym ' Malpas Court ': parhaodd y lle hwnnw'n eiddo i'w deulu. Bu'n uchel siryf y sir yn 1846. Bu farw yn ddisyfyd yn Llundain, 24 Ebrill 1853, yn 73 oed. Priododd ddwywaith. Rhoddir lle yn y D.N.B. i ddau o'i wyrion, Syr George Walter Prothero 1848 - 1922), hanesydd, a Rowland Edmund Prothero, barwn Ernle (1851 - 1937), gweinyddwr ac awdur.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.