ROBERT (ab) IFAN neu ROBERT IFANS, (fl. c. 1572-1603), prydydd ac uchelwr

Enw: Robert (Ab) Ifan
Rhiant: Marged ferch Huw ap Rhys
Rhiant: Ifan ap Wiliam
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: prydydd ac uchelwr
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Rhiannon Francis Roberts

O Frynsiencyn yn sir Fôn. Ceir ei ach yn llawn yn Peniarth MS 158 ar ddiwedd y copi diddorol a wnaeth iddo'i hun (ym mis Mai 1587) o gynnwys gramadegau'r beirdd, etc.; dywed yno mai enw ei fam oedd Marged, ferch Huw ap Rhys o Fysoglen (Maesoglan), ac eglura sut y daeth ei dad, Ifan ap Wiliam, yn berchennog tir yn sir Fôn. Canodd yn bennaf i rai o uchelwyr sir Fôn a sir Ddinbych, yn eu plith Salbriaid Llewenni, a cheir marwnadau ganddo i Catrin o'r Berain, a Siôn Tudur. Ceir peth o'i waith yn ei law ef ei hun yn Christ Church MS. 184 (am gopi ffotostat o'r llawysgrif hon gweler NLW MS 6495D: Llawysgrif Christ Church 184 (copi): Rhan 1 - NLW MS 6496C: Llawysgrif Christ Church 184 (copi): Rhan 2 ) ac yn Peniarth MS 72 . Enwir 'Robert Ifan lân lonydd' yng nghywydd Thomas Prys 'i yrru yr Eryr at brydyddion i neges' (J. Fisher, The Cefn Coch MSS. 1899, 23).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.