ROBERTS, RICHARD (1823 - 1909), gweinidog Wesleaidd

Enw: Richard Roberts
Dyddiad geni: 1823
Dyddiad marw: 1909
Priod: Hannah Roberts (née Elsworth)
Priod: S. Sophia Neville Roberts (née Broom)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Wesleaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Hywel Meilir Pennant Lewis

Ganwyd 30 Mai 1823 ym Machynlleth. Yn fachgen lled ieuanc symudodd i fyw gyda modryb iddo ym Manceinion lle cafodd addysg mewn ysgol yn Oldham Street. Rhwng 1837 a 1843 bu yng ngwasanaeth cwmni o fasnachwyr yn y ddinas. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Eglwys Wesleaidd Gymraeg Hardman Street, a dechreuodd bregethu yn 1839. Ar ôl tair blynedd yng ngholeg Didsbury, Manceinion, aeth i'r weinidogaeth yn 1846. Teithiodd ar gylchdeithiau Aberhonddu (1846), Caerloyw (1849), King St., Bryste (1852), Wesley, Leeds (1855), Great Queen St., Llundain (1858), Queen St., Huddersfield (1861), City Road, Llundain (1864), St. John's Wood, Llundain (1867), Ealing (1870), Spitalfields (1873), a Great Queen St., Llundain (1876), Wesley, Lerpwl (1879), City Road, Llundain (1882) a Lambeth (1885). Ymneilltuodd yn 1885 ac ymsefydlu yn South Hampstead, Llundain, lle bu farw 28 Tachwedd 1909. Priododd (i) S. Sophia Neville Broom, Llanelli, a bu iddynt blant; (ii) Hannah Elsworth, Llundain. Pregethwr huawdl ac angerddol ydoedd R. Roberts uwchlaw pob dim arall - cyfrifid ef yn un o bregethwyr mwyaf poblogaidd ei gyfnod. Bu galw parhaus amdano ar hyd ei yrfa i wasanaethu mewn cylchwyliau a chynnal cenadaethau; teithiodd filoedd o filltiroedd ar hyd a lled Prydain i gyflawni'r gwaith hwn. Cafodd laweroedd o ddychweledigion yn ystod ei oes. Cyfeiriodd Iarll Shaftesbury mewn araith yn Nhŷ'r Arglwyddi at ddylanwad rhyfeddol ei bregeth mewn chwaraedy yn Llundain, ddydd Calan 1860. Nodweddid ei bregethu efengylaidd gan esboniadaeth gyfoethog a phraffter diwinyddol. Dywedid fod acenion yr 'hwyl' Gymreig yn dyfod i'r amlwg yn ei bregethu yn y Saesneg.

Etholwyd ef i Gant Cyfreithiol ei Gyfundeb yn 1874 ac yr oedd yn Weinidog Wesley's Chapel, Llundain - 'Eglwys Gadeiriol Methodistiaeth' - pan etholwyd ef yn Llywydd y Gynhadledd yn 1885. Ef oedd y Cymro Cymraeg cyntaf i eistedd yng nghadair John Wesley. Cyhoeddodd gyfrolau o bregethau: My Later Ministry (1887), The Living One (1892), The Man of Peace (1894), My Jewels (1903).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.