SIÔN ap HOWEL ab OWAIN (1550?-1626/7), cyfieithydd;
mab Howel ab Owain, Cefn Trefiaeth, Llanystumdwy a Catherine, merch Rhisiart ap Dafydd o Gefn Llanfair. Yr oedd felly'n nai i Huw ap Rhisiart ap Dafydd (Bywg., 376) ac yn gefnder i Richard Hughes (Bywg., 367). Ar ôl marw'i dad yn 1583 ef oedd y penteulu yng Nghefn Treflaeth, ac yr oedd yn un o'r rhai a erlynwyd gan Iarll Caerlŷr yn helynt Fforest yr Wyddfa. Yn llsgr. Llanfair a Brynodol 2 yn y Llyfrgell Genedlaethol ceir copi o ddechrau cyfieithiad Siôn ap Howel o'r Rhetorica ad Herennium i'r Gymraeg. Bu f. yn 1626/7 a'i gladdu yng nghôr Llanystumdwy.
Llyfryddiaeth:
- Trans. Caerns. Hist. Soc., 1958, 20-21; 1960, 54-60 a 63-9.
Awdur:
Bedwyr Lewis Jones (1933-92), Bangor