Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THOMPSON , DAVID ( 1770 - 1857 ; D.W.B. , 1153), arloeswr yn rhan Brydeinig Gogledd America ; g. 30 Ebrill 1770 yn Westminster , a bedyddiwyd ef yn ‘ Thompson ’, er mai ‘ Ap Thomas ’ oedd cyfenw ei dad ( David ) a'i fam ( Ann ) hyd iddynt symud i Lundain . Bu'r tad f. pan nad oedd y bachgen ond tair oed. Addysgwyd David yn ysgol Grey Coat , ac yn 1784 prentisiwyd ef i wasanaethu Cwmni Bae Hudson . Bu'n glerc a masnachwr mewn crwyn am bum mlynedd, ac yna, yn 1789-90 , daeth tan ddylanwad Philip Turnor , tir-fesurydd y cwmni. Dysgodd Turnor elfennau seryddiaeth a thriongliaeth iddo. Gosododd ei fryd ar dir-fesur ac arloesi, er gwaethaf gwrthwynebiad ei feistri. Dysgodd nifer o dafodieithoedd yr Indiaid Cochion , a chyda Beibl a ‘sextant’ yn ei law (yr oedd hefyd yn llwyrymwrthodwr tanbaid), aeth ati i arloesi a mapio . Dysgodd oddi wrth yr Indiaid fod yna ffordd fer (byrrach nag ar hyd yr afon) i lyn Athabasca , a dilynodd hi. Yn 1797 aeth i wasanaethu Cwmni'r Gogledd Orllewin , ond er iddynt hwy roddi dwy flynedd o ryddid iddo i arloesi, nid oeddynt yn fodlon iddo gyfrif ei waith fel masnachwr mewn crwyn yn ail beth mewn pwysigrwydd. Yn y cyfamser dilynasai'r Afon Goch ac afon Assiniboine i'w tarddiad, teithiasai ar hyd glannau afon Assiniboine hyd at ei chysylltiad â'r Afon Goch yn ardal Winnipeg , dilynasai gwrs yr Afon Goch , a darganfuasai darddiad y Mississippi . Yn 1799 priododd Charlotte Small , merch i Albanwr ac Indiad . Aeth hi gydag ef ar ei holl deithiau, a bu iddynt saith mab a chwe merch. Dilynodd gwrs Afon S. Lawrence hyd at lyn Superior . Yn 1807 croesodd y Canadian Rockies . Darganfu darddiad afon Columbia , ac ef oedd y dyn gwyn cyntaf i ddilyn cwrs yr afon honno o'i tharddiad i'w haber ( 1811 ), gan fapio ar hyd y daith o dros 1200 milltir. Gadawodd Gwmni'r Gogledd Orllewin yn 1812 , ac ymsefydlodd ym Montreal er mwyn cynllunio ei fap mawr o'r Gorllewin Pell , sylfaen pob map swyddogol a gyhoeddwyd gan lywodraeth Canada am gan mlynedd, a gwaith na cheir ei well am gywirdeb. Cedwir ef yn awr gyda dogfennau swyddogol talaith Ontario . Yn y cyfnod 1816-26 yr oedd yn aelod o'r comisiwn a oedd yn penderfynu ar ran o'r ffin rhwng Canada a'r Unol Daleithiau . Dioddefodd lawer yn ei flynyddoedd olaf. Symudasai yn 1836 i Williamstown (Ont.) , ac agor siop , ond syrthiodd i dlodi fel canlyniad i ddyledion nas talwyd iddo, ei garedigrwydd di-reol, a methiant rhai o'i feibion mewn busnes. Bu f. yn Longueil (y tu allan i Montreal ) yn 1857 , a chladdwyd ef ym mynwent Mount Royal , Montreal . Anghofiwyd amdano ef a'i waith yn llwyr, hyd i ddaearyddwr arall, J. B. Tyrrell , ddilyn ei lwybrau eilwaith, a chyhoeddi ei ddyddiaduron yn 1916 . Heddiw ceir gofgolofnau iddo ar ei fedd ym Mount Royal , yn British Columbia , ac yn North Dakota . Galwyd afon Thompson yn British Columbia ar ei ôl, er anrhydedd iddo, er nad ef a fu'n arloesi yn yr ardal honno. Yn 1957 cyhoeddodd llywodraeth Canada gyfres o stampiau i ddathlu canmlwyddiant ei farwolaeth.

Llyfryddiaeth:

  • Dictionary of American Biography , , (1928-36, 1944, 1988) (cyfeiriadau da);
  • Dictionary of Canadian biography , Toronto / Llundain, 1966- ;
  • Maclean's Magazine , Toronto (Toronto), 9 Tach. 1957 .

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.