THOMAS, JOHN (1838 - 1905), ffotograffydd

Enw: John Thomas
Dyddiad geni: 1838
Dyddiad marw: 1905
Priod: Elizabeth Thomas (née Hughes)
Plentyn: Jane Claudia Lloyd (née Hughes)
Plentyn: Albert Ivor Thomas
Plentyn: Robert Arthur Thomas
Plentyn: William Thelwall Thomas
Rhiant: Jane Thomas
Rhiant: David Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ffotograffydd
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: Emyr Wyn Jones

Ganwyd yng Nglan rhyd, Cellan, Sir Aberteifi, 14 Ebrill 1838, yn fab i David a Jane Thomas. Bu'n ddisgybl ac yn ddiweddarach yn ddisgybl-athro yn ysgol Cellan, ac yna yn brentis i ddilledydd yn Llanbedr Pont Steffan. O 1853 i 1863 bu'n gweithio mewn siop ddillad yn Lerpwl, ond gorfodwyd ef gan afiechyd i geisio gwaith yn yr awyr agored fel cynrychiolydd cwmni a werthai bapur ysgrifennu a ffotograffiau.

Wedi iddo sylweddoli cyn lleied o Gymry a ddarlunid yn y ffotograffiau o enwogion a werthai, cychwynnodd ar fenter a ddatblygodd i fod yn brif waith ei fywyd. Dechreuodd yn 1863 drwy brynu camera a gwahodd nifer o bregethwyr Cymreig enwog i eistedd am eu llun. Bu raid iddo, ar y dechrau, wynebu rhagfarn yn erbyn 'ffotograffwyr y stryd', ond daliodd ei dir, ac yn 1867 cychwynnodd ei fusnes ffotograffyddol ei hun yn 53 Heol S. Anne. Adnabyddid y lle fel ' The Cambrian Gallery ', enw a gadwyd (wedi symud i safleoedd eraill hefyd), am ddeng mlynedd ar hugain, hyd ei newid i ' Yr Oriel Gymreig ' pan brynwyd y fusnes gan (Syr) Owen M. Edwards. Yn 1867 hefyd daeth Thomas ar ei ymweliad cyntaf proffesyddol i Gymru i dynnu llun Cymanfa Gyffredinol y Methodistiaid Calfinaidd a oedd yn cyfarfod yn Llanidloes. Wedi hyn teithiodd ledled Cymru gan dynnu lluniau enwogion a 'chymeriadau', eglwysi a chapeli, cartrefi Cymry enwog, adeiladau hynafiaethol, ac ardaloedd a golygfeydd prydferth - hyn oll er gwaethaf anawsterau tynnu lluniau yn yr awyr agored drwy'r 'proses gwlyb', ac anawsterau teithio. Wedi iddo sylweddoli gwerth arbennig ei gasgliad, detholodd dros 3000 o'i 'plates' a'u gwerthu am swm cymedrol iawn i O. M. Edwards. Defnyddiwyd hwy ganddo ef i ddarlunio Cymru a ' Cyfres y Fil '. Heddiw cedwir hwy yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yr oedd gan Thomas ddiddordebau eraill. Ysgrifennodd lawer i Cymru (O.M.E.) a chylchgronau eraill Cymraeg. Yr oedd yn wr gwir grefyddol, a bu'n aelod o eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Rose Place hyd ei chau yn 1865 ac wedyn o eglwys M.C. Fitzclarence Street.

Priododd (1861) Elizabeth Hughes o Lan-dwr, Bryn eglwys, sir Ddinbych, (bu farw 1895) a bu iddynt bedwar o blant: Jane Claudia, yn ddiweddarach Mrs. Hugh Lloyd (1863 - 1934), William Thelwall (isod), Robert Arthur (1866 - 1932), ac Albert Ivor (1870 - 1911, meddyg). Bu farw 14 Hydref 1905 a chladdwyd ef yng nghladdfa Anfield, Lerpwl.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.