Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THOMAS, Syr OWEN (1858-1923; D.W.B., 1150), awdurdod ar ffermio, brigadydd, aelod seneddol; g. 18 Rhag. 1858, yng Ngharrog, sir Fôn, o dras pregethwyr a diaconiaid Annibynnol, a daliodd yntau'n Annibynnwr selog drwy gydol ei oes. Cafodd ei addysg gynnar yn y Liverpool College. Yn fuan canolbwyntiodd ei ddiddordeb ar ffermio, gan ennill amryw wobrwyon mewn arddangosfeydd ym Môn a thu allan iddi; yn ddiweddarach, bu'n oruchwyliwr ar stadau Plas Coch a'r Brynddu; o 1893-7 bu'n aelod o Gomisiwn brenhinol ar y dirwasgiad amaethyddol, yr unig gynrychiolydd o Gymru arno (ar wahân i'r Arglwydd Rendel). Yr oedd yn amlwg iawn hefyd ym mywyd cyhoeddus sir Fôn; aelod o'r cyngor sir, henadur, ynad heddwch, dirprwy raglaw, ac uchel sirydd yn 1893. Yr oedd ar ymweliad â De Affrig pan dorrodd y rhyfel â'r Boeriaid allan yn 1899; gwnaed ef yn gyrnol, a chododd y Prince of Wales Light Horse, dod yn llywydd arnynt, ac ymladd (meddir) gant o frwydrau. Drwy'r rhyfel, ac ar ôl ei diwedd, talodd lawer o sylw i dir De Affrig a'r modd gorau i'w ddatblygu, sail y llyfr a gyhoeddodd (Llundain, 1904) dan y teitl Agricultural and Pastoral Prospects of South Africa, cyfrol o 335 td. Yn union wedi i'r Rhyfel Mawr dorri allan yn 1914 gwnaed ef yn frigadydd, i fod yn gyfrifol am ddisgyblu'r lluoedd bechgyn ieuainc o ogledd Cymru a restrodd yn y fyddin. Penodiad delfrydol ymron, pan gofier am ei ddiddordeb gynt yn Volunteers sir Fôn, ei yrfa lachar yn yr Affrig gyda'r Light Horse, a'r ffaith ei fod yn Gymro reiol o ran iaith a theimlad, hawdd dod ato, y natur ddynol ar ei gorau. Bu'n llwyddiant mawr, er i broblemau astrus o ddisgyblaeth godi eu pennau yn awr ac yn y man a chael hwyl o wynt yn y papurau newyddion. Urddwyd ef yn farchog yn 1917. Bu iddo bob amser ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth — awgrymwyd ei enw yn 1894 fel ymgeisydd dros Fôn ar ran y Rhyddfrydwyr — ac yn Rhag. 1918, wele ef yn ymgeisydd Llafur, ac er syndod i'r Rhyddfrydwyr uniongred, enillodd y sedd oddiar yr hen aelod a fu'n cynrychioli'r sir er 1895 (E. J. Ellis-Griffith, Bywg., 201). Yn 1919-1920 yr oedd yn aelod o'r Comisiwn (gyda'r Arglwydd Milner yn ben iddo) a anfonwyd i'r Aifft i gyfleu adroddiad ar sefyllfa adfydus y wlad honno. Yn 1922 daeth allan fel ymgeisydd annibynnol dros Fôn, ac unwaith eto fe enillodd y dydd yn erbyn y Rhyddfrydwyr. Bu farw ar 6 Mawrth 1923, a'i gladdu yn Llanfechell ar y nawfed. Collodd dri o'i feibion yn y Rhyfel Mawr cyntaf.

Llyfryddiaeth:

  • J. E. Griffith: P.A.C.F., 399;
  • H.E.A.C., ii, 483-7, v, 233-4;
  • Jnl. Royal Agri. Soc., Third Series, vii 131 viii, 516-22;
  • WwW, 1921;
  • Y Genedl, 13 Maw. 1923;
  • Y Dysgedydd, 1923, 277-81.

Awdur:

Thomas Richards, D.Litt., (1878-1962), Bangor