THOMAS, WILLIAM (1727 - 1795), ysgolfeistr a dyddiadurwr

Enw: William Thomas
Dyddiad geni: 1727
Dyddiad marw: 1795
Priod: Ann Thomas
Plentyn: William Thomas
Rhiant: William Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolfeistr a dyddiadurwr
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 29 Gorffennaf 1727, mab (fe dybir) i un William Thomas, Sain Ffagan, Morgannwg. Un o'r Matheuaid oedd ei fam. Tybir mai ef yw'r William Thomas, Ysgol-Feistr y 'Lusen-Ysgolion' y diogelwyd llawysgrif o'r eiddo yn cynnwys emynau, &c. sydd heddiw yn y ' C.M. Archives ', Ll.G.C. Dywedir ei fod yn cadw ysgol ar un adeg yn Llandybïe, Sir Gaerfyrddin; gwyddys hefyd ei fod yn cadw ysgolion mewn gwahanol blwyfydd yn neddwyrain Morgannwg yn ystod hanner olaf y 18fed ganrif. Adnabyddid ef fel William Thomas, ' ysgolhaig ', a chredai rhai ei fod yn ddewin. Yr oedd yn ' Clerk to the Commisioner of Taxes, Hundred of Dinas Powys, and a surveyor of Land '. Trigai ef ac Ann ei briod yn ' Roughbrook ', plwyf Llanfihangel-ar-Elái. Bu farw 11 Gorffennaf 1795, a chladdwyd ef ym medd William, ei fab, ym mynwent Llanfihangel-ar-Elái.

Cadwai William Thomas ddyddlyfr dros ran helaeth ei oes. Gwelwyd y dyddlyfr hwnnw gan John Rowland (Giraldus, a cheir dyfyniadau ohono yn ei Caermarthenshire Monumental Inscriptions (1865), t. xxiii, a ddengys iddo ddechrau cadw dyddlyfr yn 1750. Yr oedd y dyddlyfr, neu ran ohono, ym meddiant Dr. James Lewis o Fro Morgannwg yn 1888; a'r flwyddyn honno copïwyd cyfran helaeth ohono, sef dyfyniadau am y cyfnod 1762-94, gan David Jones, Wallington. Y mae'r copi hwnnw yn awr yn Llyfrgell Rydd Caerdydd (Crd. 4.877). Dengys y dyfyniadau sydd ar gael fod dyddlyfr William Thomas, ysgolhaig, yn gronicl manwl a phwysig o ddigwyddiadau Sir Forgannwg mewn cyfnod diddorol, a thrueni bod y gwreiddiol ar goll ers blynyddoedd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.