Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WATKINS, THOMAS EVAN (‘Eiddil Ifor ’, ond yn ddiweddarach ‘Ynyr Gwent ’; 1801-1889; D.W.B., 1154), eisteddfodwr; g. 1 Mai 1801 ym Mhwll-yr-hyward (yn ôl pob tebyg Pwll-yr-hwyaid), Llan-ffwyst, sir Fynwy. Bu ei dad, o'r un enw, yn gweithio yn Abertyleri, ond dychwelodd i Lan-ffwyst i weithio yn y chwareli cerrig calch a berthynai i waith haearn Blaenafon. Ymaelododd yn eglwys y Bedyddwyr yn Llanwenarth, a phriodwyd ef yno. Bu'r mab yn cadw tafarn y ‘White Hart’ ym Mlaenafon, ac yna yn gweithio fel pwyswr yng ngwaith haearn Blaenau Gwent. Dychwelodd i Flaenafon (c. 1860) i gadw tafarn y ‘Three Cranes’. Bu f. ei wraig, Mary (Lewis), yn y Blaenau yn 1859. Yr oedd ganddynt ddwy ferch. Bu ef ei hun farw 31 Ion. 1889. Yr oedd yn gystadleuydd eisteddfodol brwd, ac yn un o aelodau gwreiddiol Cymreigyddion y Fenni (gw. tan Thomas Price, Bywg., 744-5, ‘Carnhuanawc a than Bevan, Thomas (Bywg., 32b). Enillodd lawer o wobrwyon a bathodau, a chyfrannodd i Seren Gomer a'r Bedyddiwr. Gwyddys amdano orau fel awdur yr hanes plwyfol, Hanes Llanffwyst, a enillodd y wobr yn eisteddfod gyntaf y Cymreigyddion yn Y Fenni (Abergavenny), 22 Tach. 1834. Cyhoeddwyd y gwaith hwn yn 1922 tan olygyddiaeth Syr Joseph Bradney (Bywg., 43), gyda rhagymadrodd, a ddefnyddiwyd fel ffynhonnell yr erthygl hon.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.