WHITE, RAWLINS neu RAWLYN (fl. 1485?-1555; D.W.B., 1154),
un o'r tri a ferthyrwyd yng Nghymru yn ystod teyrnasiad y frenhines Mari (y ddau arall oedd Robert Ferrar (Bywg., 245-6), yr esgob, a William Nichol o Hwlffordd, na wyddys ddim ychwanegol amdano). Pysgotwr yng Nghaerdydd (o c. 1535) oedd White, a cheir y cofnod cyntaf amdano yn y ‘Ministers Accounts’ am 1541-2. Yno disgrifir ef fel tenant hanner bwrdeisiaeth yn y stryd a oedd yn ymestyn o'r Porth Gorllewinol hyd at fur y dref o flaen ‘le slauterhouse in Hom'by’ (= Womanby), h.y. yn y stryd a elwir heddiw Westgate Street. Yn y ‘Ministers Accounts’ am 1542-3, deil ‘the farm of five fishery hengis’ (hang-nets) ym maenor Roath. Yr oedd yn ŵr priod a chanddo blant. Er yn anllythrennog, dysgasai ar gof ddarnau o'r Beibl a ddarllenid iddo gan un o'i feibion. Troes at Brotestaniaeth, ac o'r herwydd carcharwyd ef yng Nghasgwent a Chaerdydd. Ceisiodd Anthony Kitchin (Bywg., 503), esgob Llandaf, yn daer ac yn garedig, ei berswadio i ymwrthod â'i ffydd, ond gwrthododd, a llosgwyd ef wrth y stanc yng Nghaerdydd, tua Mawrth 1555, yn ôl Foxe. Ar gofeb ddiweddar iddo yng nghapel Bethany, Caerdydd, rhoddir y dyddiad, 30 Mawrth, ond amheus yw'r dyddio manwl hwn. Ymddengys braidd yn hynod fod White a'r esgob Ferrar, wedi marw ar yr un diwrnod yn union mewn dau ganolfan gwahanol. Y mae hyd yn oed y flwyddyn yn amheus, a hwyrach mai 1556 oedd y gwir ddyddiad. Dywed Foxe fod White yn 70 oed, neu yn agos at hynny, pan fu farw.
Llyfryddiaeth:
- J. Hobson Matthews (gol.), Cardiff Records, i, 213, 235-, a.v, 475 sqq., lle y dyfynnir yr hanes fel yr adroddir ef yn Foxe, Martyrs.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.