WILLIAMS (TEULU) o Gochwillan ,
disgynyddion o'r un gwraidd â Griffith o'r Penrhyn.
ROBIN AP GRIFFITH ,
brawd Gwilym ap Griffith, y gŵr a osododd sylfeini ffyniant teulu'r Penrhyn (gw. Griffith o'r Penrhyn uchod), oedd sylfaenydd y teulu. Hwyrach i Robin ymsefydlu ym Modfeio mor gynnar â 1389. Priododd (1) Angharad, merch Rhys ap Griffith, a (2) Lowri, merch Grono ab Ifan. Bu'n cynorthwyo Owain Glyndŵr ar ddechrau ei wrthryfel, ond erbyn 1408 yr oedd wedi cefnu arno, oherwydd yn y flwyddyn honno, ceir ef yn un o swyddogion y goron yn sir Gaernarfon. Yr oedd yn fyw yn 1443 a bu f., yn ôl pob tebyg, c. 1445. (J. R. Jones, ‘The development of the Penrhyn estate to 1431’, traethawd gradd M.A., Prifysgol Cymru, heb ei gyhoeddi; Min. Acc., 1153/5; Griffith, Pedigrees, 186). Priododd ei fab o'r briodas gyntaf,
GRIFFITH AP ROBIN (bu f. c. 1475),
Fallt, ferch Griffith Derwas ap Meurig o Nannau (gw. NANNAU, TEULU; Bywg., 640). Dienyddiwyd hanner brawd iddo, Thomas, yng Nghonwy yn 1468, gan William Herbert, iarll Penfro (Bywg., 333), fel Lancastriad. Ymddengys i Riffith ei hun ddilyn esiampl ei berthnasau o'r Penrhyn mewn hyblygrwydd. Nodir ef yn gyson fel swyddog brenhinol a ffermwr tan y goron yn sir Gaernarfon o 1459 i 1475, ac yn 1466 yr oedd yn aelod o gomisiwn a benodwyd i archwilio adroddiadau fod cyllidau heb eu talu o Fôn a sir Gaernarfon er esgyniad Edward IV, (Hist. Gwydir Family, arg. 1927, 19; Min. Acc., 1180/1-1181/5; Cal. Pat. Rolls, 1461-7, 529). Yr oedd ei fab,
WILLIAM AP GRIFFITH (bu f. c. 1500),
yn bleidiol iawn i'r Tuduriaid. Priododd Angharad ferch Dafydd ab Ifan ab Einion (Bywg., 88), a gadwodd Harlech ar ran y Lancastriaid rhwng c. 1460 a 1468. Dywedir iddo ddyfod â thrwp o wŷr meirch i gynorthwyo Harri Richmond ym mrwydr Bosworth. Penodwyd ef yn siryf sir Gaernarfon am ei oes yn 1485, a derbyniodd fraint dinasyddiaeth yn 1486. Bu f., yn ôl pob tebyg, yn 1500 (Breese, Kalendars, 50; Cal. Pat. Rolls., 1485-94, 55). Ei fab,
WILLIAM ,
oedd y cyntaf o'r teulu i fabwysiadu'r cyfenw WILLIAMS. Priododd ef Lowri, merch Henry Salesbury o Lanrhaeadr, ac fe'i ceir yn ei ddisgrifio'i hun fel hen ŵr cyn 1559. Yr oedd yn un o'r comisiynwyr a benodwyd yn 1535 i archwilio ynglŷn â degymau ac eiddo ysbrydol yn esgobaethau Bangor a Llanelwy. Yr oedd yn siryf sir Gaernarfon yn 1542, 1547 a 1553. Gwnaeth ei ewyllys ar 24 Meh. 1558 a phrofwyd hi 3 Meh. 1559. (Ei drydydd mab, Thomas, oedd sylfaenydd teulu Williams y Faenol. Gw. Griffith, Pedigrees, 190). Priododd ei fab hynaf,
WILLIAM (WYNN) WILLIAMS ,
Dorothy, merch Syr William Griffith o'r Penrhyn. Ymddengys iddo farw o flaen ei dad, oherwydd profwyd ei ewyllys 14 Mai 1557. Rhaid felly mai'r tad, ac nid y mab, oedd y William Williams a etholwyd yn aelod seneddol dros sir Gaernarfon yn 1558. Sylfaenwyd teuluoedd o beth bri gan ddau fab ieuaf William (Wynn) Williams — ARTHUR, cyndad teulu Williams o Feillionydd, ac EDMUND WILLIAMS o Gonwy, tad John Williams, archesgob Efrog (Bywg., 982-3) (Cal. Wynn Papers, 30; llsgrau'r Penrhyn 63; Breese, Kalendars, 51; L. and P. Henry VIII, viii, rhif 149 (66a 67); Williams, Parl. Hist. of Wales, 58; llsgr. Peniarth 289. Y mae'r dyddiadau a roddir yn Griffith, Pedigrees, 186 yn anghywir). Disgynnodd yr ystad i
WILLIAM ,
mab hynaf William (Wynn) Williams, a'i daliodd hyd ei farw yn 1612. Priododd (1) Agnes, merch John ap Meredith o Wydir (gw. erthygl ar WYNN (TEULU), Gwydir, Bywg., 1031-2), a (2) c. 1569, Barbara, merch George Lumley, mab John, Arglwydd Lumley, a gweddw Humphrey Llwyd, yr hynafiaethydd (Bywg., 560-1). Yr oedd yn siryf sir Gaernarfon yn 1571 a 1592, a sir Drefaldwyn yn 1589 a 1596 (Breese, Kalendars, 51 a 53; Lloyd, Sheriffs of Montgomeryshire, 232 a 269). Dywedir yn gyffredin i'w fab o'r briodas gyntaf, OWEN WILLIAMS, gael ei ddietifeddu, ac i'w fab o'r ail briodas, HENRY WILLIAMS, gael ei wneud yn aer. Nid yw'r ffeithiau cywir mor syml â hyn. Ar ryw ddyddiad anhysbys, trosglwyddasai William Williams ei ystad i Owen Williams, gan gyfyngu'r etifeddiaeth i etifeddion gwryw, ond bu Owen farw cyn 1590, gan adael merch yn unig, sef Dorothy, a briododd Henry Needham o Thornsett, sir Derby (Edwards, Star Chamb. Procs., 152 a 155). Yn 1590, trosglwyddodd William Williams ei diroedd mewn ymddiriedaeth ar ran ei ail wraig, Barbara, a'u mab, Henry Williams. Disgrifir yr ystadau fel yn gorwedd ym Môn, ac yn siroedd Caernarfon, Meirionnydd, Trefaldwyn, Amwythig a Chaer (llsgrau'r Penrhyn 77; am ei fuddiannau yng Nghroesoswallt gw. E. G. Jones, Exchequer Procs., 345). Fel canlyniad i'r cam hwn, bu cyngaws rhyngddo ef a'i wyres o'r briodas gyntaf yn y Cwrt Gward (Cal. S.P. Dom., 1603-10, 642). Yr oedd wrth natur yn chwannog i gyfreithia, ac nid oes amheuaeth na ddioddefodd yr ystad o'r herwydd. Ymddengys iddo gynnal cweryl â'i berthynas, John Wynn o Wydir (gw. WYNN GWYDIR (TEULU) (Bywg., 1031-2), drwy ei oes. Yn 1592 cyrhaeddodd y cweryl ei uchafbwynt pan gyhuddwyd Wynn gan Williams, yn llys Siambr y Seren, o'i daro mewn cyfarfod ynadon yn eglwys Conwy. Dirwywyd Wynn am y trosedd hwn (Cal. Wynn. Papers, 114, 132, 134, 727; Clenennau L. and P., 45, 46, 48; Edwards, Star Chamb. Procs., 37, 38; Cal. S.P. Dom., 1603-10, 456). Dug Williams achosion yn llys Siambr y Seren yn erbyn Syr Richard Bulkeley o Fiwmares (gw. tan BULKELEY; Bywg., 51-2) ac amryw unigolion o siroedd Caernarfon a Threfaldwyn (Edwards, Star Chamb. Procs., 37, 38; E. G. Jones, Exchequer Procs., 345). Bu cweryl rhyngddo hefyd a'i berthynas, Syr Rhys Griffith o'r Penrhyn, a'i fab, Pirs Griffith (Bywg., 278 a'r erthygl, Griffith o'r Penrhyn, uchod; llsgrau. Penrhyn 239-41, 245-7, 249). Yr oedd yn un o'r nifer mawr o ysgwieriaid Cymreig a fenthycodd arian oddi wrth Syr Thomas Myddelton, ac yr oedd yn morgeisio tiroedd yn 1612. Dinoddwyd ef am ei ddyledion, yn ôl pob tebyg, a rhoddwyd ei eiddo i Dr. John Craig, meddyg y brenin, a ddaeth i delerau â'r aer, Henry Williams, yn ddiweddarach (gw. isod). Bu f. Chwef. 1612 (gw. yr erthygl ar Myddelton, Bywg., 635; Cylch. Ll.G.C., i, 85; llsgrau'r Penrhyn 276; T. I. J. Jones, Exchequer Procs., James I, 51-3; Cal. S. P. Dom., 1611-18, 132). Pr.
Henry Williams (g. c. 1570)
Jane, merch Thomas Salusbury o Ddinbych, trydydd mab Syr John Salusbury o Lewenni. Ymddengys fod iddo ran yng nghwerylon ei dad o'i ieuenctid. Yn 1587 cyhuddwyd ef yng nghwrt y Sesiwn Fawr dros sir Gaernarfon o derfysg a thresmasiad ar diroedd ym meddiant Pirs Griffith o'r Penrhyn (Bywg., 278). Yn union ar ôl marw ei dad ym mis Chwef. 1612, addawodd werthu Cochwillan a thiroedd yn sir Gaernarfon i Syr William Herbert o sir Drefaldwyn am £1,000 er mwyn talu ei ddyledion. Ymddengys i'r arwerthiad gael ei rwystro oherwydd i Henry Needham, ar ran ei fab gan Dorothy Williams, wrthod trosglwyddo hawl ei wraig i ran o'r ystad. Yr oedd Henry Williams yn morgeisio tiroedd yn y Creuddyn yn 1613, a threthwyd ei adnoddau ymhellach gan gyfres o achosion cymhleth rhyngddo a Henry Needham. Ymddengys iddo fod yn garcharor oherwydd ei ddyledion rhwng 1616 a 1618. Drwy ryw ffordd ddirgel prynwyd Cochwillan a'r tiroedd yn Sir Gaernarfon gan John Williams (1582-1650; Bywg., 982), cefnder Henry Williams, c. 1620. Daeth ystad y Penrhyn i feddiant John Williams tua'r un adeg. Ond, cyn hwyred â 1674, gwerthodd John Williams o Ystumcolwyn, sir Drefaldwyn, ŵyr Henry Williams, ddaliad ym Modfeio i Syr Robert Williams o'r Penrhyn (gw. isod), y darn olaf, yn ôl pob tebyg, o'r ystad (llsgrau'r Penrhyn 101, 244, 274-6, 460; Cal. Wynn Papers, 988; Edwards, Star Chamb. Procs., 152, 155, 156; Smith, Cal. Salusbury Corr., 217; T. I. J. Jones, Exchequer Procs., James I, 279; Griffith, Pedigrees, 186).
Pan fu'r archesgob John Williams farw yn 1650, etifeddwyd yr ystadau unedig gan ei nai,
GRIFFITH WILLIAMS (bu f. 1663),
mab Robert Williams o Gonwy (bu f. cyn 1613; gw. llsgrau'r Penrhyn 420; am anawsterau ynglŷn â'i etifeddiaeth gw. Cal. Wynn Papers, 1943-6, 1997, 1999, 2001, 2003, 2017-9, 2025-6). Derbyniwyd ef yn aelod o Lincoln's Inn, Chwef. 1624. Priododd Wen, merch Hugh (Gwyn) Bodwrda, cytundeb a gryfhawyd yn y genhedlaeth nesaf drwy briodas eu merch, Catherine, â'i chefnder John, ŵyr Hugh Gwyn Bodwrda. Yn 1641, fel dirprwy islyngesydd gogledd Cymru, danfonodd adroddiad iddo glywed am gynllwyn ymhlith reciwsantiaid y Creuddyn i gymryd meddiant o Gonwy. Yn ystod y Rhyfel Cartref a'r Werin lywodraeth dilynodd, fel rheol, arweiniad ei ewythr. Yr oedd yn siryf sir Gaernarfon yn 1651 a 1662. Gwnaed ef yn farwnig gan Gromwell yn 1658, a chan Siarl II yn 1661. Bu f. yn 1663 (Breese, Kalendars, 55, 56; erthyglau Bodwrda, a Puw (teulu) o'r Penrhyn Creuddyn; Cal. Wynn. Papers, 1695; G.E.C., Complete Baronetage, iii, 6, 212). Priododd ei fab,
Syr ROBERT WILLIAMS (c.1627-1680), yr ail farwnig ,
(1) yn 1652, Jane, merch Syr John Glynne o Benarlâg (gw. GLYNNE (TEULU), Penarlâg, Bywg., 263-4). Adlewyrchid ei syniadau gwleidyddol gan y briodas hon a'u cryfhau. Etholwyd ef a'i dad-yng-nghyfraith yn aelodau seneddol dros sir Gaernarfon yn 1656, ac yn 1658 etholwyd ef dros Gaernarfon. Yr oedd yn siryf sir Gaernarfon yn 1670. Pr. (2) yn 1671, Frances, gweddw'r Cyrnol Whyte o'r Brodordy, Biwmares, merch Syr Edward Barkham, barwnig (Cal. Wynn Papers, 1982, 2121; llsgrau'r Penrhyn 430; Williams, Parl. Hist. of Wales, 61; G.E.C., Complete Baronetage, iii, 213; Breese, Kalendars, 56). Dilynwyd ef gan ei ddau fab, Syr JOHN WILLIAMS (bu f. 1682), 3ydd barwnig, a Syr GRIFFITH WILLIAMS (bu f. 1684), 4ydd barwnig, a fu farw yn ddietifedd, Hugh Williams o'r Marl, trydydd mab Syr Griffith Williams, y barwnig cyntaf (gw. WILLIAMS o'r MARL, Bywg., 962-3) oedd y barwnig nesaf. Daeth y Penrhyn a Chochwillan i feddiant Frances, merch hynaf Syr Robert Williams, a'u gadawodd, yn ei thro, i'w dwy chwaer fel cyd-etifeddesau, sef (1) Anne, a briododd Thomas Warburton o Winnington, sir Gaer, a (2) Gwen, a briododd Syr Walter Yonge o Escot yn Nyfnaint. Rhwng 1765 a 1785 llwyddodd Richard Pennant, drwy briodas a phryniant, i ail uno dau hanner yr ystad. (gw. yr erthygl, PENNANT (Teulu), Bywg., 700).
Llyfryddiaeth:
- Dynodir y ffynonellau yng nghorff yr erthygl.
Awdur:
Yr Athro Glyn Roberts, M.A., (1904-1962), Bangor